Cwyno, plagio, lobïo!

Published: 4 Feb 2022

Dywedwch wrth y rhai sy’n gwneud penderfyniadau eich bod eisiau gweld llai o ynni’n cael ei wastraffu, mwy o ganolbwyntio ar effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy, a diwedd ar danwyddau ffosil.
Someone typing on a laptop
Photo by Christin Hume on Unsplash

 

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru a nifer o sefydliadau eraill yn ceisio annog newidiadau yn y darlun mawr yn gyffredinol, o lywodraethau i fusnesau.

Ond y llais pwysicaf yw eich llais chi. Os hoffech weld newid cadarnhaol, y peth cyntaf a’r peth gorau y gallwch ei wneud bob amser yw cwyno, plagio a lobïo busnesau, cynghorau lleol, Aelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol.

Dywedwch wrthyn nhw eich bod eisiau gweld llai o ynni’n cael ei wastraffu, mwy o ganolbwyntio ar effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy, a diwedd ar danwyddau ffosil.

Os bydd digon ohonon ni’n cwyno ac yn dal ati i gwyno, bydd busnesau a gwleidyddion yn siŵr o gymryd camau! Does dim rhaid ichi hyd yn oed aros am ymgyrchoedd arbennig er mwyn dweud eich dweud – rhowch wybod i’r cwmnïau, y gwleidyddion a’r busnesau beth yw eich barn.

Pethau y gallwch chi eu gwneud

Ynni

Amdani!

Share this page