Cwiltiau ar gyfer Cartrefi Cynnes yn uno yn San Steffan

Published: 20 Mar 2024

Photo of Raoul Bhambral

Raoul Bhambral
Gwirfoddolwr, Cyfeillion y Ddaear Cymru

Cwilt Ymgyrch Cartrefi Cynnes Cyfeillion y Ddaear Caerdydd yn ymuno â'r arddangosfa.
People holding quilts outside Westminster
Bu grwpiau o bob rhan o Gymru a Lloegr yn arddangos eu cwiltiau yn San Steffan

Ymunodd cwilt cymunedol Cartrefi Cynnes Caerdydd ag eraill i wneud arddangosfa fywiog a mynegiannol yn San Steffan fis Chwefror eleni. Roedd yr arddangosfa yn nodi lansiad adroddiad damniol i gyflwr enbyd cartrefi Prydain. Yn yr adroddiad "Left out in the cold: the hidden costs of Britain’s cold homes" gan y Sefydliad Ecwiti Iechyd, nodwyd tystiolaeth bod 1 o bob 3 aelwyd yn byw mewn cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio'n wael, yn aneffeithlon o ran ynni ac yn gwastraffu arian.

Ymunodd Cyfeillion y Ddaear Caerdydd â chrefftwyr eraill o Birmingham, Norwich, Manceinion, Caerlŷr, Ilford a New Forest ar Sgwâr y Senedd. Roeddent yn arddangos cwiltiau wedi eu gwneud i fyny o sgwariau yn dwyn negeseuon ar y thema 'Cartrefi Cynnes nad ydynt yn costio'r Ddaear'. I wneud y cwiltiau, roedd grwpiau o Gymru a Lloegr wedi gwahodd eu haelodau a'u cefnogwyr a chynnal digwyddiadau eraill fel y gallai cymunedau gyfrannu sgwariau. Yn dilyn Diwrnod Gweithredu Cyfeillion y Ddaear Caerdydd ym mis Tachwedd, cynhaliwyd digwyddiad arall yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter lle gwnaeth aelodau a phobl leol 40 o sgwariau i gyd.

Wrth ddisgrifio'r cwilt, dywedodd Jenny Moses, aelod o grŵp Cyfeillion y Ddaear Caerdydd, "Ar ôl i ni gasglu'r sgwariau fe wnaethon ni eu gwnïo o amgylch canolbwynt wedi’i wau a'i roi ar ei gilydd fel y gellid defnyddio'r cwilt fel baner neu hyd yn oed ei wisgo fel clogyn. Roedd mor wych gweld creadigrwydd, dyfeisgarwch a negeseuon yng nghwiltiau'r grwpiau eraill hefyd".

Lansiwyd adroddiad y Sefydliad Ecwiti Iechyd yn Nhŷ Portcullis ac arddangoswyd y cwiltiau o gwmpas yr ystafell ar gyfer y digwyddiad. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at beryglon byw mewn cartrefi oer - o bryderon iechyd meddwl cynyddol i fwy o bwysau ar y GIG a pha mor wael mae'r DU yn perfformio o'i gymharu â gwledydd eraill.

"Gwnaeth un o'r cynrychiolwyr sylwadau ar yr ymdrech a wnaed i greu'r sgwariau a'r cwiltiau hyn. Pwysleisiwyd y pwynt fod pobl ar draws y wlad yn ei weld fel ffordd o fynegi eu pryder a'u gobeithion ar y thema 'Unedig dros Gartrefi Cynnes'. Nawr mae angen i'n gwleidyddion gymryd camau go iawn i wneud cartrefi cynnes yn realiti i bawb!"

 

Jenny and Terry holding up their quilt outside Westminster
Jenny Moses and Terry Howe from Cardiff Friends of the Earth holding up their quilt outside Westminster

Dywedodd Terry Howe, Cyd-Gadeirydd Cyfeillion y Ddaear Caerdydd, "Fis Ebrill diwethaf fe ddangoson ni fod llawer o gartrefi Caerdydd yn gollwng ynni ac arian. Daeth yr adroddiad i'r casgliad y byddai gwario £6biliwn y flwyddyn ar insiwleiddio cartrefi yn arbed mwy na dwywaith y swm hwnnw trwy wella iechyd corfforol a meddyliol preswylwyr. Mae canfyddiadau'r adroddiad hwn yn dangos bod y sefyllfa bresennol yn annerbyniol."

"Fe ddaethon ni â'n cwilt cymunedol i San Steffan i ddangos bod pobl Caerdydd yn poeni am hyn ac eisiau gweld gweithredu ystyrlon i fynd i'r afael â'r mater."

 

Felly beth sydd nesaf?

Mae Cyfeillion y Ddaear Caerdydd yn eich gwahodd i Bafiliwn y Grange yng Nghaerdydd ar 25 Ebrill 2024 ar gyfer cam nesaf yr ymgyrch. Byddwn yn clywed gan ymgyrchwyr dros gartrefi cynnes yn ogystal â Chynghorwyr Caerdydd a fydd yn dweud wrthym beth mae'r Cyngor yn ei wneud ynghylch effeithlonrwydd ynni a’r modd y mae’n helpu pobl sydd mewn trafferth oherwydd amddifadedd.

Meddai Terry, "Bydd y cwilt yn ôl ac yn cael ei arddangos a'r tro hwn bydd gennym ddarn rhyngweithiol arall - bwrdd stori lle gall pobl ychwanegu eu profiadau o gartrefi oer. Bydd gennym hefyd gardiau post gweithredu i'r rhai sydd am gymryd camau pellach."

Darllenwch yr Adroddiad

 

Share this page