Cartrefi cynnes
Pobl hŷn, pobl o liw, y rhai ar incwm isel, teuluoedd mawr, pobl anabl, y rhai sy’n rhentu a’r rhai sy’n byw mewn tai cymdeithasol yw’r rhai sy’n ei chael hi anoddaf.
Ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae yna bobl yn uno o amgylch nod cyffredin: cartrefi cynnes sydd ddim yn gostus i'r ddaear nac ein pocedi..
Beth bynnag fo’u cymhelliant - yr argyfwng costau byw, hawliau rhentwyr neu bryder ynghylch yr hinsawdd - mae’r grwpiau hyn yn uno mewn hybiau cymunedol i bwyso am weithredu pendant ar yr argyfwng ynni.
Mae Warm this Winter yn glymblaid newydd sy’n canolbwyntio ar fynnu bod y llywodraeth yn gweithredu ar frys i fynd i’r afael â biliau ynni’r gaeaf hwn gan sicrhau bod ynni’n fforddiadwy i bawb yn y dyfodol.
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi lansio ymgyrch newydd llawr gwlad o'r enw Unedig dros Gartrefi Cynnes. Byddwn yn ymuno â'n gilydd mewn eiliadau allweddol i ddangos ein pŵer ar y cyd a newid yn y galw.
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn aelod o Climate Cymru, sy’n arwain y glymblaid Warm this Winter yng Nghymru. Rydym wedi lansio deiseb yn ddiweddar yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu nawr i gadw pobl yn gynnes y gaeaf hwn a’r gaeafau i ddod.

Cartrefi cynnes - ein gofynion i Gymru
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau yn awr i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw a’r argyfwng hinsawdd, a hefyd rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i gynyddu’r cyllid ar gyfer cyflawni’r cam gweithredu hwn.

Yr argyfwng ynni
Mae biliau ynni sy’n codi yn llenwi penawdau’r DU. Ond sut y cyrhaeddwyd y sefyllfa hon a phwy sy’n cael eu heffeithio fwyaf?

Yr argyfwng ynni yng Nghymru
Mae pobl yng Nghymru yn cael eu heffeithio fwy gan yr argyfwng ynni nag unrhyw ran arall o’r DU. Ond pam a beth allwn ni ei wneud ynghylch hyn?

Ymunwch a’r ymgyrch
Mae Unedig Dros Gartrefi Cynnes yn fudiad sy’n tyfu ac yn cynnwys grwpiau cymunedol ac ymgyrchwyr o bob rhan o fywyd sy’n ymgyrchu am nod gyffredin: cartrefi clyd i bawb.