Cartrefi cynnes - ein gofynion i Gymru

Published: 13 Sep 2024

Ar hyd a lled Cymru, mae biliau ynni pobl yn cynyddu ac yn cynyddu ac mae pobl yn dioddef yn sgil y ffaith eu bod yn byw yn rhai o gartrefi lleiaf ynni-effeithlon y DU. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau yn awr i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw a’r argyfwng hinsawdd, a hefyd rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i gynyddu’r cyllid ar gyfer cyflawni’r cam gweithredu hwn.

 

People standing outside Senedd holding placards

 

Rydym ynghanol sawl argyfwng – yr argyfwng costau byw, yr argyfwng ynni a’r argyfwng hinsawdd. Mae yna gysylltiad rhwng yr argyfyngau hyn, ac maent yn dangos un peth yn gwbl glir: mae angen inni ddatrys ein system ynni fregus ar frys. Mae gennym atebion ar gyfer lleihau biliau ac allyriadau, ac rydym eisiau i’r atebion hynny gael eu rhoi ar waith ar frys fel y gellir darparu cartrefi cynnes na fyddant yn costio’r greadigaeth. 

 

Ein gofynion ar gyfer Cymru 

1. Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i gynyddu’r gyllideb ddirprwyedig er mwyn i Gymru allu darparu rhaglen inswleiddio cartrefi ar raddfa fwy.

Mae cartrefi Cymru ymhlith y rhai lleiaf ynni-effeithlon yn y DU gan eu bod yn gollwng gwres. Oherwydd biliau uwch a chartrefi sydd wedi’u hinswleiddio’n wael, yn ôl amcangyfrifon Llywodraeth Cymru mae 45% o aelwydydd Cymru yn wynebu tlodi tanwydd erbyn hyn. Uwchraddio cartrefi trwy eu hinswleiddio yw’r ffordd rataf a rhwyddaf o leihau ein biliau’n barhaol a chadw pobl yn gynnes. Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rhaglen o’r enw Cartrefi Clyd i helpu cartrefi yng Nghymru, gyda chefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd, ond mae angen ychwaneg o gyllid gan San Steffan i ddarparu’r rhaglen hon. Dylai Llywodraeth Cymru ymuno â ni i alw ar Lywodraeth y DU i gynyddu’r gyllideb ddirprwyedig, gan sicrhau y bydd modd i Gymru gael ei chyfran deg o’r cyllid a darparu rhaglen inswleiddio cartrefi ar raddfa fwy. 

2. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ei rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar waith ar frys – sef rhaglen a dargedir at aelwydydd sy’n dlawd o ran tanwydd. Hefyd, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynlluniau ar gyfer ail ran y rhaglen er mwyn helpu i sicrhau bod holl gartrefi Cymru yn effeithlon o ran ynni ac er mwyn ategu’r gwaith o ddatgarboneiddio holl gartrefi Cymru.

3. Dylid rhoi blaenoriaeth i system ynni i Gymru sy’n seiliedig ar ynni adnewyddadwy a gwresogi carbon isel.

Mae ein system ynni bresennol wedi torri. Yn hytrach na sicrhau y gall pawb fforddio i gynhesu eu cartrefi, mae’r system yn blaenoriaethu elw enfawr i gwmnïau tanwyddau ffosil.

Mae angen inni adeiladu system ynni sy’n ein cadw’n gynnes, heb iddi gostio’r greadigaeth, trwy ddatblygu ynni adnewyddadwy rhad, glân a gynhyrchir yn ein gwlad ein hunain – fel ynni’r haul neu ynni’r gwynt – gan roi’r gorau i ddefnyddio tanwyddau ffosil drud sy’n llygru’r amgylchedd.

Yng Nghymru, ceir enghreifftiau gwych o gwmnïau ynni adnewyddadwy cymunedol sy’n cynnig sicrwydd ynni inni ac sy’n ailfuddsoddi’r elw yng nghymunedau Cymru. Trwy wneud hyn, gallwn ostwng biliau a lleihau allyriadau ar yr un pryd.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i droi Ynni Cymru yn gwmni cyhoeddus ar frys fel y gellir ehangu ynni adnewyddadwy cymunedol. Rydym eisiau gweld cynlluniau i ddatblygu sgiliau’r gweithlu, ynghyd â gwell cyllid ar gyfer datblygu technolegau cynaliadwy newydd. Hefyd, rydym yn gofyn am gael cynllun clir ar gyfer ehangu gwresogi carbon isel yng Nghymru.

Ar yr un pryd, rhaid i Lywodraeth Cymru roi’r gorau i gloddio am lo a rhoi’r gorau i ymestyn ac ehangu’r diwydiant glo yng Nghymru – gan wahardd cloddio am lo yn gyfan gwbl. Dylai Llywodraeth Cymru alw ar Lywodraeth y DU i ddiwygio’r farchnad ynni a gosod treth ffawdelw yn syth at gwmnïau olew a nwy fel y gellir ariannu ffyrdd o gynorthwyo’r aelwydydd mwyaf agored i niwed. 

 

Eisiau cymryd rhan?

Rydym wedi creu briffiau wedi'u teilwra ar gyfer pob etholaeth. Lawrlwythwch eich un chi a'i rannu gyda'ch AS i ddweud wrthyn nhw sut mae'r argyfwng ynni yn effeithio ar bobl yn eich ardal leol a sut y gallant lobïo Llywodraeth y DU i ymrwymo i fwy o arian ar gyfer inswleiddio yng Nghymru. Darganfyddwch fwy o awgrymiadau ar gyfer ymgysylltu â'ch cymuned leol a'ch AS ag ymgyrch United for Warm Homes yma.

Share this page