Canllaw gweithredu’r gwanwyn ar gyfer Planet over Profit
Mae’r ymgyrch Planet Over Profit yn ail-lansio yn ystod gwanwyn 2025. Gyda’ch help chi, bydd yn cyrraedd mwy o gymunedau nag erioed o’r blaen.
Dros benwythnos 24 a 25 Mai, gall eich grŵp gymryd rhan mewn stỳnt ffotograffig i gefnogi gwarchodwyr y goedwig.
Bydd eich cyfranogiad yn nodi dechrau’r ymgyrch Planet over Profit yn eich cymuned leol. Bydd y weithred yn cyflwyno cymunedau lleol i’n hymgyrch fyd-eang drwy eich cyfryngau lleol a’r cyfryngau cymdeithasol.
Sut i gymryd rhan
- Casglwch eich grŵp ynghyd ar gyfer stỳnt ffotograffig i ddangos cefnogaeth i warchodwyr y goedwig. Eich nod yw creu cynrychiolaeth weledol o goedwig.
- Cytunwch ar leoliad i gyfarfod yn ystod penwythnos 24 a 25 Mai ar gyfer eich llun.
- Penodwch rywun i dynnu lluniau a dod â’r grŵp at ei gilydd.
- Trefnwch i wisgo dillad gwyrdd.
- Dewch â phropiau gyda chi. Gallwch archebu arwyddion, neu ddylunio a chreu eich arwyddion eich hun.
Props
Gallwch archebu ein mygydau anifeiliaid y goedwig i gynnull eich grŵp o breswylwyr y goedwig.
Beth am crëu eich propiau coed eich hunain, neu rywbeth arall sy’n cynrychioli’r coedwigoedd? Beth am leoli rhai o’r propiau tua’r cefn a thu allan i’r grŵp a chael arwydd “rydym ni’n cefnogi gwarcheidwaid y goedwig” yn amlwg ar y blaen? Gallwch hefyd fod yn greadigol a ffilmio clipiau fideo byr, megis eich grŵp yn cyd-adrodd “rydym ni’n cefnogi gwarcheidwaid y goedwig”.
Gallwch hefyd ddod â thaflenni, sydd ar gael i’w harchebu. Er mai ar-lein ac yn y cyfryngau lleol y bydd eich cynulleidfa yn bennaf, dylech sicrhau bod gennych daflenni wrth law i egluro pam yr ydych chi’n gweithredu i unrhyw un sy’n galw heibio.
Mwy o syniadau
Eisiau gwneud mwy? Os ydych chi wedi’ch ysbrydoli i wneud mwy, mae gennym ni fwy o syniadau:
- Byddwch yn greadigol. Ceisiwch greu coed, gwisgoedd anifeiliaid y goedwig, arwyddion neu faneri eich hunain.
Byddwch yn ddiolchgar. Cynigiwch ddigwyddiad defodol neu deyrnged i’r goedwig. Gall pob aelod o’r grŵp ddod â symbol bach o’u diolchgarwch i’r goedwig, fel blodyn, mêl neu beth bynnag yr ydych chi’n ei deimlo sydd orau.
Hyrwyddo eich gweithredu
Unwaith y byddwch wedi tynnu lluniau, mae’n amser rhannu gwybodaeth. .
- Addaswch ein templed datganiad i’r wasg (gweler isod) ac anfonwch y datganiad i’r cyfryngau lleol, ynghyd â’ch lluniau. Mae cysylltiadau da i anfon eich datganiad yn cynnwys papurau newydd lleol, papurau ar-lein neu flogiau newyddion lleol.
Cofiwch am y cyfryngau cymdeithasol (gweler isod). Dewiswch eich lluniau gorau a chyhoeddwch nhw ochr yn ochr â’n templedi negeseuon cyfryngau cymdeithasol. Tagiwch unrhyw gyfrifon cyfryngau cymdeithasol a allai helpu i rannu newyddion am lansiad yr ymgyrch Planet over Profit.
Cyngor da ar gyfer gweithredu llwyddiannus
- Amrywiaeth o luniau. Tynnwch amrywiaeth o luniau gwahanol siâp. Bydd angen lluniau siâp tirlun ar gyfer y cyfryngau lleol, ond efallai y bydd angen lluniau siâp portread ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Defnyddiwch yr offer cywir. Holwch i weld pwy sydd â’r ffôn gyda’r camera gorau i dynnu lluniau o ansawdd uchel. Cofiwch dynnu lluniau wedi’u goleuo’n dda.
- Meddyliwch am y cyfansoddiad. Er enghraifft, byddwch yn gwisgo dillad gwyrdd felly yn ddelfrydol, bydd angen cefndir gwahanol liw er mwyn i chi fod yn weledol.
- Ystyriwch y lleoliad. Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio yn eich ardal leol. Meddyliwch am leoliadau sy’n egluro’n glir pwy ydych chi.
Adnoddau
Mae gennym ni ystod o adnoddau ar gael i chi allu eu harchebu gan Cyfeillion y Ddaear:
- Arwyddion “We stand with Forest Defenders”
- Mygydau bywyd gwyllt Sarawak
- Taflenni
- Templed datganiad i'r wasg