Canllaw gweithredu cynghorau tref a chymuned ar gael

Published: 5 Jul 2023

Heddiw (dydd Mercher 5 Gorffennaf) mae Un Llais Cymru a Chyfeillion y Ddaear Cymru wedi lansio canllaw gweithredu newid hinsawdd a natur newydd sbon ar gyfer cynghorau cymuned a thref yng Nghymru yng Nghynhadledd Arfer Arloesol Un Llais Cymru yn Llanfair-ym-Muallt.
Ruthin Repair Cafe
Cafe trwsio Ruthin

 

Lawrlwythwch y canllaw gweithredu hinsawdd a natur

 

Mae’r ddogfen newydd, sef cydweithrediad rhwng Un Llais Cymru a Chyfeillion y Ddaear Cymru, yn ceisio rhoi rhai syniadau ymarferol i gynghorau ledled Cymru ar yr hyn y gallant ei wneud ar amrywiaeth o faterion megis defnydd ynni, defnydd dŵr, gwarchod natur, cyllid, cemegau, gwastraff, bwyd a thrafnidiaeth.

Mae hefyd yn dwyn ynghyd astudiaethau achos o’r gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud gan gynghorau cymuned a thref ledled Cymru ar y materion hyn..

Photo of Lyn Cadwallader
Lyn Cadwallader, Prif Weithredwr Un Llais Cymru

Dywedodd Lyn Cadwallader, Prif Weithredwr Un Llais Cymru:

“Rwy’n croesawu’n fawr gyhoeddiad y Canllaw newydd hwn i Gynghorau Lleol a byddwn yn annog pob Cyngor i ddilyn y canllawiau a grybwyllir yn y ddogfen ar gyfer eu dyletswyddau a’u gweithgareddau Cyngor o ddydd i ddydd. the guidance mentioned in the document for their day-to-day Council duties and activities".

 

Photo of Bleddyn Lake
Bleddyn Lake

 Dywedodd Bleddyn Lake, llefarydd Cyfeillion y Ddaear Cymru:

“Mae gan Gynghorau Cymuned a Thref rôl unigryw i’w chwarae wrth ysbrydoli a gweithio gyda’u cymunedau i gymryd camau ymarferol yn eu hardaloedd lleol ar y bygythiadau deuol o ddinistrio natur a newid hinsawdd.

“Gweithredu’n lleol, boed hynny ar lefel bersonol neu gymunedol, yw un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Gobeithiwn y bydd y canllaw gweithredu newydd hwn yn rhoi syniadau newydd i Gynghorau Cymuned a Thref yn ogystal â dysgu o rai o’r cynlluniau gwych sydd eisoes yn digwydd ledled Cymru.”

Share this page