Caerdydd yn chwilio am ffordd iachach a gwyrddach ymlaen
Published: 20 Apr 2023
Cyhoeddodd Cyngor Caerdydd ddoe (17 Ebrill 2023) ei fod yn cynnig system o godi tâl am ddefnyddio ffyrdd yn y brifddinas er mwyn cyflawni ei weledigaeth am Gaerdydd carbon niwtral.
Mae’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd, meddai, i wella iechyd y cyhoedd, gwella ansawdd yr aer, gwell cludiant cyhoeddus, hybu’r economi, a lleihau tagfeydd traffig.
Mae’r cyngor yn awyddus i dawelu meddwl gyrwyr y dylid gwella cludiant cyhoeddus (megis tocyn bws am £1 ar deithiau allweddol)
Nid yw wedi darparu unrhyw fanylion am y gost na’r ardal lle byddai’r tâl yn cael ei godi.
Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru,
“Mae’n wych gweld bod Cyngor Caerdydd yn barod i fod yn ddewr ac uchelgeisiol er mwyn datrys ansawdd aer y ddinas a phroblemau cludiant.
“Mae aer peryglus yn cael ei anadlu gan bobl bob dydd mewn dinas brysur sy’n chwalu ein planed a’n hiechyd.
“Mae Caerdydd yn gywir i archwilio codi tâl ffyrdd mewn modd teg a chyfiawn. Dylai cyfleoedd teithio actif gwell a gwella cludiant cyhoeddus yn sylweddol fynd law yn llaw â hyn.”