Cael mesurydd deallus

Published: 4 Feb 2022

Mesuryddion deallus yw’r genhedlaeth nesaf o ran mesuryddion trydan a nwy.

Picture of a smart meter

 

 

Mesuryddion deallus yw’r genhedlaeth nesaf o ran mesuryddion trydan a nwy.

Maen nhw’n mesur faint o drydan a nwy a ddefnyddiwch a faint mae hynny’n ei gostio, gan ddangos y manylion ar sgrîn hwylus yn eich cartref. Maen nhw’n cael gwared â’r angen am amcanfiliau ac fe ddylen nhw ein helpu i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon a lleihau ein hallyriadau hinsawdd.

Mae cwmnïau ynni’n cyflwyno mesuryddion deallus ledled y DU. Maen nhw’n gweithio ar systemau rhagdalu a systemau credyd, ac maen nhw’n rhad ac am ddim.

Awgryma’r amcangyfrifon y gall aelwydydd arbed rhwng £50-£100 ar eu biliau ynni trwy ddefnyddio llai o ynni yn eu cartrefi.

Pe bai pawb yn y DU yn gosod mesurydd deallus, mae Smart Energy GB yn amcangyfrif y byddai modd inni wneud arbedion blynyddol cyfwerth â CO2 a fyddai’n cyfateb i 70 miliwn o goed.

Yng Nghymru, mae National Energy Action (NEA) Cymru yn helpu i gyflwyno rhaglen Smart Energy GB mewn cymunedau.

Mae thermostatau deallus yn ddull newydd o reoli gwres, ac maen nhw’n eich galluogi i reoli llawer mwy ar eich gwres, ni waeth ble y byddwch, trwy ddefnyddio ap ffôn symudol. Fe allan nhw eich helpu i reoli gwres eich cartref yn fwy effeithlon ac arbed arian ar filiau ynni.

Yn ôl amcangyfrif Project Drawdown (ar gyfer y byd):

‘…fe ellid gweld 1,453 miliwn o aelwydydd yn gosod thermostatau deallus erbyn 2050. Mae’r effeithiau o ran yr hinsawdd a’r effeithiau ariannol sydd ynghlwm wrth gyflymu’r broses o ddefnyddio thermostatau deallus yn fawr: gellid osgoi 7.0 gigatunnell o allyriadau nwyon tŷ gwydr cyfwerth â charbon deuocsid. Y gost cyfalaf ymylol o wneud hyn fyddai US$155 biliwn, ond byddai’n arbed US$1.8 triliwn mewn costau gweithredu gydol oes yn sgil defnyddio llai o ynni i wresogi ac oeri.’

 

Pethau y gallwch chi eu gwneud

Ynni

Amdani!

Share this page