Bwyd
Published: 19 Jan 2022
Llysiau i wneud cawl o ancestorsinaprons.com
Mae ffermio’n sector pwysig i economi Cymru, ac mae ganddo bwysigrwydd diwylliannol cryf i’r genedl.
Mae llawer o ffermydd teuluol wedi bod yn y teulu ers cenedlaethau a ffermio yw asgwrn cefn llawer o gymunedau. Mae bron i 90% o dir Cymru yn dir amaeth. Fodd bynnag, datgan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd bod allyriadau amaethyddiaeth yn cyfrif am 13% o allyriadau Cymru.
P’run a ddewiswn fwyta cig ai peidio, gŵyr pawb ohonom yr effeithiau y mae cynhyrchu cig a llaeth (yn arbennig systemau dwys) yn eu cael ar ein planed. Darllenwch fwy
Beth ydyn ni'n galw amdano?
Gofynnwn i Lywodraeth Cymru helpu ffermydd i fod yn fwy caredig â’r blaned a byd natur – drwy gefnogi systemau fferm gyfan sy’n diogelu byd natur a dal a storio carbon, er enghraifft.
Dylid cymell ffermydd i warchod ac adfer cynefinoedd, coetiroedd a gwrychoedd a gwella iechyd y pridd.
Mae angen iddynt hefyd leihau’r defnydd a wnant o lai o wrtaith, plaladdwyr, a gwrthfiotigau a gwella iechyd a lles anifeiliaid gyda da byw sy’n byw ar dir pori. Darllenwch fwy