Buddsoddi mewn ynni cymunedol

Published: 4 Feb 2022

Yn fwyfwy y dyddiau hyn, mae cynlluniau ynni cymunedol yn gallu talu enillion da ar fuddsoddiadau, ac mae Egni Co-op er enghraifft yn cynnig llog rhagamcanol o oddeutu 4% y flwyddyn gyda’r cyfalaf yn cael ei ad-dalu dros 20 mlynedd.

Wind turbine in a field

 

Yn amlwg, mae’r gyfradd llog hon yn uwch o lawer na mathau eraill o fuddsoddiadau, ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth, cymerwch gipolwg ar Rwydwaith Buddsoddi Cymunedol Cymru.

Gall y rhwydwaith hwn gynnig llawer mwy o wybodaeth, ynghyd â rhoi’r diweddaraf ichi am gyfleoedd newydd yng Nghymru.

Hefyd, mae gan Ganolfan Cydweithredol Cymru wybodaeth am gynlluniau buddsoddi cymunedol.

Mae llu o sefydliadau ac elusennau’n gweithio ar brosiectau ynni gyda chymunedau anghysbell mewn gwahanol rannau o’r byd, ac mae’r prosiectau hyn yn helpu’r trigolion i fyw bywydau cynaliadwy a gwydn yn ogystal â helpu i leihau allyriadau hinsawdd. Os ydych chi o’r farn y gallwch gefnogi’r sefydliadau hyn, ystyriwch y mater o ddifrif. Mae Renewable World,  SolarAid a Practical Action yn enghreifftiau.

Mae sefydliadau eraill, fel y Clean Cooking Alliance, yn gweithio o amgylch y byd er mwyn helpu pobl sy’n dioddef yn anghymesur oherwydd stofiau budr, llygrol ac aneffeithlon, sydd hefyd yn cyfrannu at newid hinsawdd.

Pethau y gallwch chi eu gwneud

Ynni

Amdani!

Share this page