Beth am helpu i ddatrys problem wastraff Cymru - ymatebwch nawr

Published: 18 Mar 2020

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar eu strategaeth Mwy nag Ailgylchu - ymatebwch nawr gan ddefnyddio'r weithred hawdd ar-lein hon

Dychmygwch fyd heb wastraff. Nid yw sbwriel yn bod mwyach ac mae deunyddiau plastig untro wedi cael eu gwahardd. Nid yw adnoddau gwerthfawr yn cael eu dihysbyddu, nid yw safleoedd tirlenwi’n orlawn, ni cheir llosgyddion, ac ni ddefnyddir gormodedd o ddeunyddiau i bacio cynhyrchion..

 

 

Mae’r stwff a ddefnyddiwn ar gael am amser maith a chaiff ei droi’n stwff newydd ar ddiwedd ei oes. Ac rydym yn anhygoel am ailgylchu – ond dim ond pan ddaw hi i’r pen. Does dim yn cael ei wastraffu!

Oherwydd yn y byd hwn rydym yn benthyca, yn rhannu, yn ailddefnyddio, yn ail-lenwi ac yn trwsio ein pethau, gan uwchgylchu nifer o’r cynhyrchion a ystyriwn ar hyn o bryd yn ‘wastraff’.

Ond sut allwn ni gael Cymru fel hon? Mae Llywodraeth Cymru eisiau eich syniadau a’ch barn ynglŷn â’i strategaeth ‘Mwy nag Ailgylchu’.

Mae’n crybwyll llu o syniadau a mentrau gwych, ond nid yw’n mynd yn ddigon pell – er enghraifft, dylai’r targed ar gyfer cael Cymru ddiwastraff fod ynghynt o lawer na 2050.

 

Beth am greu’r Gymru y mae ein planed ei hangen. Mae gennych tan 3 Ebrill i ddweud eich dweud.

Share this page