Arbed ynni yn y cartref

Published: 4 Feb 2022

Yn y DU, mae oddeutu 22% o’r nwyon hynny sy’n cynhesu’r blaned yn dod o’n cartrefi. Mae gwresogi a chynhesu dŵr poeth yn gyfrifol am oddeutu 80% o’r ynni a ddefnyddir yn ein cartrefi.

Sign saying disconnect charger to save energy

 

Ym Mhrydain, mewn cartref nodweddiadol sydd heb ei inswleiddio, mae 33% o’r gwres a gollir yn treiddio trwy’r waliau ac oddeutu 25% trwy’r to.

Nid yw’r atebion yn newydd, ac yn ôl pob tebyg rydym yn gwybod am y rhan fwyaf ohonyn nhw’n barod.

  • Bydd inswleiddio eich atig, er enghraifft, hyd at ddyfnder o 270mm, yn talu amdano’i hun o fewn blwyddyn neu ddwy, yn sgil biliau ynni is.
  • Gall atal drafftiau yn eich cartref dynnu o leiaf £20 yn ychwanegol oddi ar eich bil ynni.
  • Gall diffodd teclynnau yn hytrach na’u gadael yn segur arbed £40 y flwyddyn.

Mae grantiau a chymorth ariannol ar gael ar gyfer inswleiddio cartrefi a boeleri newydd. Er enghraifft, yng Nghymru mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau o’r enw Nyth ac Arbed.

Ymhellach, mae gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni gyngor da ynglŷn â’r mathau o grantiau sydd ar gael, a hefyd byddai’n werth ichi holi eich cyflenwr/cyflenwyr ynni i weld pa gynlluniau sydd ganddyn nhw ar waith ar y pryd.

Mae gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) ym Machynlleth lond lle o wybodaeth; ac i gael gwybodaeth gynhwysfawr iawn am ddulliau inswleiddio ac arbed arian o bob math, cymerwch gipolwg ar wefan y Ganolfan Ynni Cynaliadwy

Yn ôl amcangyfrif Project Drawdown:

‘Mae ôl-osod adeiladau â stwff inswleiddio yn ateb cost-effeithiol a fydd yn lleihau’r ynni y bydd ei angen i wresogi ac oeri. Bob blwyddyn, pe bai 1.6-2 y cant o’r adeiladau preswyl a masnachol a leolir mewn gwledydd tymherus a throfannol yn gosod stwff inswleiddio gyda deunyddiau sy’n fwyfwy carbon isel, byddai modd osgoi 17-19 gigatunnell o allyriadau.’

Pethau y gallwch chi eu gwneud

Ynni

Amdani!

Share this page