Mislif heb blastig

Published: 3 Feb 2022

Bob blwyddyn yn y DU, caiff mwy na 4.3 biliwn o eitemau mislif untro eu defnyddio.
Picture of reusable sanitary pads
https://menstrualcupreviews.net/reusable-menstrual-cloth-pads/

O blith yr eitemau hyn, dodwyr tampon plastig yw 1.3 biliwn ohonyn nhw, a thamponau a phadiau traddodiadol yw’r pumed eitem mwyaf cyffredin a welir ar draethau Ewrop.

Mae Wen yn amcangyfrif bod 90% o badiau mislif yn cynnwys plastig a bod 2 biliwn o eitemau mislif yn cael eu golchi i lawr tai bach Prydain bob blwyddyn.

Hefyd, mae yna beth pryder ynglŷn â phresenoldeb rhai cemegau mewn eitemau mislif

Felly, beth yn union yw eitemau mislif?

 

Faint o newidiadau y gallwch chi eu gwneud i’ch arferion siopa?

Diolch i’r drefn, mae eitemau mislif ecogyfeillgar yn fwyfwy cyffredin y dyddiau hyn. Gadewch i Ella Daish, ymgyrchydd o Gaerdydd, eich ysbrydoli i ddysgu rhagor a helpu i gael gwared â phlastig o bob eitem mislif!

Hefyd, cymerwch gipolwg ar Wen a’u hymgyrch ar eitemau mislif.

 

Diwastraff - pethau y gallwch chi eu gwneud

Cemegau - pethau y gallwch chi eu gwneud

Cemegau

Amdani!

Share this page