Ffarwelio â sigaréts
Published: 4 Feb 2022
Wrth gwrs, mae’r effeithiau drwg sy’n gysylltiedig â smygu yn dra chyfarwydd erbyn hyn.
Ond beth am yr effaith a gaiff y diwydiant tybaco ar y blaned?
Mae sigaréts yn cynnwys plastig a chemegau niweidiol sy’n trwytholchi i gyrsiau dŵr, gan achosi llygredd.
Ac yn ôl adroddiad a luniwyd yn 2018, mae’r tybaco a gynhyrchir bob blwyddyn yn esgor ar bron i 84 tunnell o allyriadau cyfwerth â charbon deuocsid – bron i ddwywaith cymaint ag allyriadau Cymru gyfan. Mae ffermydd tybaco yn defnyddio mwy nag 20,000 milltir sgwâr o dir a mwy na 22 biliwn tunnell o ddŵr, ac yn arwain at ddatgoedwigo ardaloedd yn Asia ac Affrica.
Ymhellach, sigaréts yw un o’r ffurfiau sbwriel mwyaf treiddiol yn y byd. Gall hidlyddion plastig gymryd hyd at 12 mlynedd i ddiraddio ac mae bonion sigaréts yn gollwng tocsinau sy’n halogi dŵr ac yn niweidio bywyd y môr a’r amgylchedd.
I gael rhagor o wybodaeth a help ar gyfer rhoi’r gorau i smygu sigaréts, edrychwch ar ASH Cymru.
Os ydych chi wedi bod yn chwilio am reswm arall dros roi’r gorau i smygu –wel, dyma fo!
Cemegau - pethau y gallwch chi eu gwneud