Trafnidiaeth - cwyno, gwneud trafferth, lobïo!

Published: 20 Apr 2022

Dywedwch wrth y rhai sy’n gwneud penderfyniadau eich bod eisiau opsiynau teithio llesol gwell, trafnidiaeth gyhoeddus fwy fforddiadwy ac aer glanach.

Picture of people cycling on a main road

 

 

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru a llawer o sefydliadau eraill yn gwthio am drawsnewidiad a hynny ym mhob agwedd. 

Os ydych eisiau gweld newid cadarnhaol yn eich ardaloedd yna’r peth gorau a’r peth cyntaf i’w wneud bob amser yw cwyno, gwneud stŵr a lobïo eich cynghorau lleol a’ch Aelodau Seneddol.  

Dywedwch wrthynt eich bod eisiau gwell opsiynau teithio llesol, trafnidiaeth gyhoeddus fwy fforddiadwy acaer glanach.

Bydd ein gwleidyddion yn gweithredu os oes digon ohonom yn cwyno a pharhau i gwyno! 

Does dim rhaid i chi aros am ymgyrchoedd i gael eu trefnu er mwyn codi’ch llais, dywedwch eich barn wrth y gwleidyddion, y cwmnïau a’r busnesau hyn.

Pethau y gallwn ni eu gwneud

Trafnidiaeth

Amdani!

Share this page