Sefydlwch fws cerdded

Published: 20 Apr 2022

Un ffordd o gael plant i fod yn fwy actif a chwtogi'r nifer o deithiau car a lleihau’r llygredd aer sy’n gysylltiedig â’r teithiau yw sefydlu bws cerdded.

Picture of a walking school bus

 

I’r rhai ‘hŷn’ yn ein mysg, roedd cerdded i’r ysgol yn rhywbeth hynod gyffredin, y dyddiau hyn mae llai na 50% o blant yn cerdded i’r ysgol am lawer o resymau gwahanol.  

Un ffordd o newid hyn, annog plant i fod yn fwy actif a chwtogi nifer y teithiau car a’r llygredd aer sy’n gysylltiedig â hyn ydy wrth sefydlu bws ysgol cerdded.  

Grŵp o blant yn cerdded i’r ysgol gydag oedolion ydy bws ysgol cerdded. Mae bws ysgol cerdded yn hybu ymarfer corff ac yn lleihau ein hôl troed carbon. Gall fod yn syml tu hwnt wrth i ddau deulu gymryd tro wrth gerdded plant ei gilydd i’r ysgol neu gall fod yn fenter mwy gyda mannau casglu ar draws y gymdogaeth yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr lleol.

Os oes gennych chi blentyn neu blant yn yr ysgol leol, allwch chi weithio gydag athrawon a rhieni eraill er mwyn sefydlu bws cerdded?

Mae gan Walking School Bus lawer o syniadau ac awgrymiadau gwych. 

 

Pethau y gallwn ni eu gwneud

Trafnidiaeth

Amdani!

Share this page