Prynwch yn lleol

Published: 21 Apr 2022

Pam ydyn ni wedi cynnwys hyn yn yr adran hon am drafnidiaeth?

Picture of Riverside Market in Cardiff

 

 

Yn syfrdanol iawn, mae Adroddiad Hinsawdd Llongau’r DU yn nodi bod "y sector llongau wedi allyrru oddeutu 139m tunnel o CO2yn 2018 yn hafal i’r CO2o chwarter o gyfanswm fflyd ceir teithwyr Ewrop neu geir 68m". 

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod allyriadau llongau wedi codi ers 1990 o oddeutu 26m tunnell o CO2, neu 19%.  

Mae’n hynod amlwg, nad yw’n hawdd i ni fel unigolion na grwpiau cymunedol i newid y sefyllfa sydd ohoni yn syth.

Ond yr hyn y gallwn ni ei wneud yw dechrau lleihau faint o gynnyrch a chynhyrchion rydyn ni’n eu bwyta a’u defnyddio o dramor sy’n ychwanegu at yr angen am gymaint o longau.

Mae dewis cynnyrch lleol da (neu mor lleol â phosib) yn gallu helpu cefnogi busnesau lleol a swyddi yn ogystal â lleihau ein hôl troed carbon ein hunain.

 

Pethau y gallwn ni eu gwneud

Trafnidiaeth

Amdani!

Share this page