Newid i dariff ynni gwyrdd
Published: 21 Jan 2022
Beth am i ni ddechrau gyda newid sy’n hawdd, gobeithio. O le mae'r busnes yn cael ei ynni? Mae newid i dariff neu gwmni trydan gwyrdd, er enghraifft, yn ffordd wych o leihau eich ôl troed carbon yn gyflym. Yn y tabl hwn ceir cymhariaeth ddiddorol ar gyfer cwmnïau trydan. Mae digon o safleoedd cymharu ar gael, yn amlwg, i ddewis ohonynt.
Yna, mae’r newidiadau arferol y gwyddom amdanynt; diffoddwch gyfrifiaduron a goleuadau pan na chant eu defnyddio (Yn nodweddiadol, mae’r swyddfa arferol yn gwastraffu £6,000 bob blwyddyn wrth adael offer ymlaen dros y penwythnos a’r gwyliau), trowch y thermostat i lefel gyfforddus, newidiwch i olau ynni effeithlon os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, trowch olau sgrin eich monitor i lawr,
Fyddai’r busnes neu’r cwmni mewn sefyllfa i osod mesurau effeithlonrwydd ynni newydd neu baneli solar, er enghraifft?
Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon a Busnes Cymru yn sefydliadau defnyddiol a allai helpu i gyfeirio busnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru at ffynonellau. Mae ganddynt, hefyd, restr o Gyflenwyr Achrededig yr Ymddiriedolaeth Garbon yn eich ardal.
Mae ganddynt hefyd ystod eang o ganllawiau ac adnoddau i fusnesau bach a chanolig eu maint ar faterion megis Caffael Ynni a Thariffau Gwyrdd.
Pan ddaw’n amser cael cyfarpar newydd, prynwch gyfarpar trydanol gyda’r sgôr effeithlonrwydd ynni gorau.
Yn ddigon diddorol, mae'r wefan gyfartalog yn cynhyrchu 1.76g CO2 pob tro yr ymwelir â’r dudalen. I wefan gyda 10,000 o ‘ymweliadau’ â’r tudalennau yn fisol, mae hynny'n 211 kg CO2 y flwyddyn. Os oes gan y busnes yr ydych yn siarad ag o ei wefan ei hun, a fyddai ganddo ddiddordeb mewn mesur ei effaith trwy gyfrifiannell ar-lein?