Ceisiwch annog mathau gwyrddach o drafnidiaeth

Published: 21 Jan 2022

Gall busnesau annog cyflogwyr i ddefnyddio mathau gwyrddach o drafnidiaeth

People cycling on a main road

 

 

Sut mae pobl yn teithio i’w gweithle? Faint o CO2 gaiff ei allyru ar y daith? Os credwch y buasai gwybod hyn, o bosib, yn helpu i annog pobl a busnesau i geisio atebion mwy cadarnhaol, cymerwch olwg ar y teclyn mapio da yma.     

Ydi’r busnes wedi’i sefydlu ar gyfer pobl sy’n dymuno defnyddio ffyrdd heblaw ceir i deithio? Oes ganddo gyfleusterau storio beiciau yn ddiogel ac yn sych, er enghraifft? Fuasai hi’n bosib iddynt? A fyddai cyfleuster canolog fel hwn yn gwneud synnwyr i lawer o fusnesau bach a chanolig eu maint mewn un ardal? 

Cymerwch olwg ar yr hyn y mae Sustrans yn ei gynghori ar gyfer newid sut mae pobl yn cyrraedd y gwaith. Mae sefydlu Her Teithio i’r Gwaith yn syniad da.  

Mantais i’r gweithiwr yw Cyclescheme sy’n arbed arian, beic ac ategolion i chi. Fyddwch chi’n talu dim ymlaen llaw a bydd eich cyflogwr yn tynnu’r arian o’ch cyflog, yn dreth effeithlon. Caiff E-feiciau eu cynnwys hefyd! Allech chi wefru e-feic yn eich gweithlu?  

Mae cynghorion da ar gyfer seiclo i’r gwaith yn Cycling Weekly.   

Mae Traveline Cymru yn lle defnyddiol i gynllunio’ch teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.   

Fuasai modd i’ch gweithle drefnu cronfa geir neu gynllun rhannu ceir?    

Wrth gwrs, mae ein byd wedi newid yn syfrdanol yn sgil Covid ac mae nifer fwy o sefydliadau a chwmnïau’n cefnogi’r symudiad i weithio gartref yn fwy parhaol.  Wrth gwrs, gall hyn arwain at ostyngiadau mewn allyriadau. Mae Llywodraeth Cymru yn annog mwy o weithwyr i weithio o bell ac mae wedi gosod uchelgais tymor hir i  30% o weithlu Cymru weithio i ffwrdd o swyddfa draddodiadol. Oes canolfan cydweithio hyblyg yn eich ardal? Allai hi? Fyddai hyn yn rhan o’ch gweledigaeth ar gyfer edrychiad eich ardal erbyn 2030?    

Os oes gan eich cwmni gerbyd cwmni o ryw fath, oes modd i chi newid i fersiwn drydanol lle byddwch yn ei blwgio i mewn, pan ddaw’n amser i chi ei adnewyddu? Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isels (OLEV) yw’r lle gorau i ddechrau chwilio am ba fath o gyngor, cymorth a grantiau sydd ar gael.   

Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd amrywiaeth o gynghorion, canllawiau a dolenni defnyddiol yma.  

Pethau y gall busnesau eu gwneud

Swyddfa Werdd

Amdani!

Share this page