Byddwch yn llym ynghylch gwastraff
Published: 21 Jan 2022
Mae gan WRAP gynllun Eich Gweithle Heb Wastraff, gyda digonedd o syniadau ac adnoddau da, yn cynnwys cymhorthion hyfforddi.
Mae modd ail-lenwi neu ailgylchu cetrys ailgylchu yn hawdd y dyddiau hyn. Ydi'r holl fusnesau yn eich ardaloedd yn gwneud hyn? Allech chi siarad â nhw amdano?
Beth am gynnal archwiliad o ba fath o ddeunyddiau a chynhyrchion sy'n cael eu defnyddio yn eich swyddfa neu fusnes a nodi a oes eu hangen ac a oes cynhyrchion mwy ecogyfeillgar ar gael y gellid newid iddynt yn y dyfodol. Mae yna amrywiaeth o fanwerthwyr ar-lein ac ar y stryd fawr, sy'n stocio cynhyrchion sy'n amrywio o styffyllwr heb unrhyw stwffwl a deunydd pacio wedi’i ailgylchu.
Yn hytrach na thaflu hen ddodrefn swyddfa, a oes unrhyw elusennau/cynlluniau uwchgylchu/cynlluniau ailddefnyddio yn eich ardaloedd lleol a allai eu cymryd? Os na allwch gael hyd i gynlluniau lleol, yna, cysylltwch â Cymru yn Ailgylchu.
Mae Computers for Charities a Computer Aid yn enghreifftiau o nifer o leoedd a fydd yn falch o fynd ag unrhyw hen gyfrifiadur o'ch swyddfeydd.
Ac yn amlwg…. dim cwpanau defnydd untro yn y swyddfa!