Bwyta’n wyrddach yn y gwaith

Published: 21 Jan 2022

Fyddwch chi’n prynu a defnyddio siwgr, coffi a chynhyrchion eraill Marchnad Deg, er enghraifft?   
Picture of a plate of healthy food
Photo by Anna Pelzer on Unsplash

Llun gan Anna Pelzer ar Unsplash  

Ffordd hawdd a sydyn o newid fyddai newid brand eich bagiau te y gallech fod yn eu defnyddio yn y swyddfa i un nad yw’n cynnwys plastig.   

Fyddwch chi’n prynu a defnyddio siwgr, coffi a chynhyrchion eraill Marchnad Deg, er enghraifft?   

Fyddwch chi’n prynu cynnyrch organig a chynhyrchion nad oes ynddynt olew palmwydd anghynaliadwy?  

Oes gennych ryw fath o ffreutur yn eich gweithle? A fydd yn caffael cynnyrch lleol? A fydd yn cynnig prydau heb gig yn rheolaidd? Ydych chi’n meddwl y buasai, o bosib, yn ystyried prosiect, megis Kale Yeah Cyfeillion y Ddaear, i annog gweithwyr i fwyta mwy o brydau heb gig neu a fuasai’n dymuno ymuno â math o gynllun Dydd Llun Di-gig?   

Ydi’ch gweithle’n creu gwastraff bwyd? Unwaith eto, mae gan WRAP ganllawiau ar sut i leihau’r math hwn o wastraff. 

 

Pethau y gall busnesau eu gwneud

Swyddfa Werdd

Amdani!

Share this page