Swyddfa Werdd
Published: 20 Jan 2022
Mae WRAP yn amcangyfrif y gall gwastraff gostio i rai sefydliadau gymaint â 4% o’u trosiant ac y gallai gweithredu arbed rhwng £400 a £1,000 y flwyddyn i bob gweithiwr.
Beth allwch chi ei wneud?
Efallai y gallwch weithio gyda'ch cyflogwr a'i annog i wneud newidiadau.
Cliciwch ar y ddolen, Beth all busnesau ei wneud, isod.
Gan ddibynnu ar le yr ydych yn gweithio, oes modd rhoi rhai o'r syniadau hyn ar waith yn eich sefydliad, eich cwmni neu yn eich busnes?
Allwch chi osod targed i chi'ch hun i siarad â'ch cydweithwyr a'ch cyflogwyr a dechrau gwneud newidiadau?
Petai gennych amser i edrych ar un ffynhonnell wybodaeth yn unig, mae Guide to Green Offices WRAP yn un dda, a hefyd The journey to net zero for SMEs yr Ymddiriedolaeth Garbon.
Gallech hefyd edrych ar yr adroddiad hwn gan TUC Cymru.
Beth all rhai busnesau ei wneud?
Fel y gallech ei ddisgwyl, mae yna lawer iawn o wybodaeth ar gael ac mae rhywfaint ohoni'n eithaf amlwg ac nid oes dwywaith bod rhai o'r syniadau eisoes yn cael eu gwneud gan fusnesau ym mhobman. Fodd bynnag, os oeddech yn dymuno siarad â’ch cyflogwr neu weithle am wneud rhai newidiadau, rydym wedi ceisio amlygu rhai syniadau o wahanol ffynonellau dan bennawd gwahanol gyda dolenni o le i fynd am ragor o wybodaeth.