Peidio â defnyddio papur lapio na rhoi cardiau
Published: 14 Jan 2022
Bob blwyddyn, byddwn ni yn y DU yn defnyddio gwerth 227,000 milltir o bapur lapio dros y Nadolig
Mae llawer o'r papur hwn yn anaddas ar gyfer ailgylchu.
Yn hytrach na phrynu papur i lapio anrhegion, beth am eu rhoi mewn bagiau neu focsys anrhegion y gellir eu hailddefnyddio am flynyddoedd maith?
Neu gallech ddefnyddio papur newydd ac ailgylchu hwnnw, neu hyd yn oed ffabrig y gallwch ei ddefnyddio dro ar ôl tro.
Defnyddiwch linyn neu ruban, y gellir eu defnyddio dro ar ôl tro, yn hytrach na thâp glynu.
Allwch chi anfon e-gardiau yn hytrach nag ychwanegu at yr oddeutu 1.5 biliwn o gardiau sy'n cael eu taflu ar ôl y Nadolig bob blwyddyn?