Osgoi post sothach

Published: 14 Jan 2022

Amcangyfrifir bod 17.5 biliwn darn o bost sothach/hysbysebu yn cael eu hanfon i gartrefi a busnesau yn y DU bob blwyddyn

Picture of a front door with junk mail pushed halfway through the letter box

 

O ystyried y darlun cyfan, efallai nad yw hwn yw'r peth cyntaf sy'n dod i'r meddwl wrth benderfynu sut i leihau ein hôl troed carbon. Fodd bynnag, mae yn cael cryn effaith ac, yn sicr, mae'n un o'r pethau hawsaf y gall pawb ei wneud ar unwaith i sicrhau bod llai o goed yn cael eu torri yn ddiangen.   

Amcangyfrifir bod 17.5 biliwn darn o bost sothach/hysbysebu yn cael eu hanfon i gartrefi a busnesau yn y DU bob blwyddyn. Mae hynny'n golygu bod miliynau o goed yn cael eu torri ar gyfer rhywbeth nad yw'n cael ei ddarllen fel arfer, ac sy'n mynd i'r bin ailgylchu ar unwaith, bron!   

Fodd bynnag, mae ychydig o bethau hawdd y gall pawb eu gwneud i leihau'r swm hwn.   

Mae gan y Post Brenhinol wasanaeth penodol y gallwch gofrestru ar ei gyfer i atal post 'drws i ddrws' heb gyfeiriad arno rhag cael ei ddanfon i'ch cartref chi.   

Mae gan Cyngor ar Bopeth lawer o syniadau a dolenni eraill i'ch helpu i leihau ar bost dieisau. Mae gan WRAP UK a Which? fwy o wybodaeth ac awgrymiadau defnyddiol.  

 

Pethau y gallwn ni eu gwneud

Papur

Amdani!

Share this page