Papur - beth yw'r broblem?
Published: 14 Jan 2022

Mae hanes papur yn un diddorol iawn, ers y tro cyntaf iddo gael ei ddefnyddio gan y dyfeisiwr o Tsieina Cai Lun.
Erbyn hyn, mae'r busnes papur a mwydion byd-eang yn anferth, ond mae llawer o broblemau'n gysylltiedig â'r diwydiant hwn.
Yn amlwg, mae'n rhaid plannu coed i'n helpu i ymladd yn erbyn cynhesu byd-eang peryglus, direolaeth.
Mae'n rhaid inni hefyd lleihau nifer y coed sy'n cael eu torri ym mhob rhan o'r byd er mwyn bodloni rhai o'n harferion afraid.
Yn yr adran hon, byddwn yn edrych ar ein defnydd o bapur – rydym wedi edrych ar resymau eraill y tu ôl i ddatgoedwigo mewn adrannau eraill o Amdani!
Un peth na ddylem ei anwybyddu yn ein brwydr yn erbyn anrhefn hinsawdd a'r argyfwng natur yw ein defnydd gwastraffus o gynhyrchion papur ffibr gwyryfol. Gall y rhain fod yn gwpanau coffi untro, papur swyddfa, post hysbysebu, derbynebau til neu nwyddau bob dydd, megis papur toiled.
Byddech yn cael braw o wybod faint o dir, ynni, dŵr a chemegion sy'n cael eu defnyddio i gynhyrchu ein nwyddau papur. Mae rhai o'r atebion, ar y llaw arall, yn syml ofnadwy.
Ceir llawer iawn o ystadegau dychrynllyd yn ymwneud â'r defnydd o bapur yng Nghymru, yn y DU a ledled y byd. Mae'n ddigon i sobri rhywun. Mewn oes lle mae'r ffocws, yn gywir, wedi bod ar leihau'r defnydd o blastig, mae angen inni sicrhau ein bod hefyd yn mynd i'r afael â'r defnydd gwastraffus o ddeunyddiau eraill, megis cynhyrchion papur.
Os ydych eisiau rhoi sioc i chi'ch hun, tarwch olwg ar hwn... How much paper has been produced so far this year?
Mae gan yr Environmental Paper Network (EPN) fideo gwych sy'n esbonio'r sefyllfa.
Mae'r diwydiant mwydion a phapur yn un o sectorau diwydiannol mwyaf y byd ac mae'n defnyddio tua 40% o'r holl bren diwydiannol a fasnachir ledled y byd.
Mae llawer o bapur yn cael ei ddefnyddio'n wastraffus ac efallai mai ychydig wythnosau yn unig y bydd yn ei gymryd i garbon coedwig gael ei dorri, ei fathru, ei gludo ar long, ei ddefnyddio a'i ollwng i'r atmosffer.
O ganlyniad, ac yn annisgwyl, efallai, mae gan bapur ôl troed carbon mawr.. Mae papur trafod a gyhoeddwyd gan yr EPN Ewropeaidd yn 2013 yn dangos y gallai'r ffordd y mae papur yn cael ei gynhyrchu a'i ddefnyddio arwain at fwy o allyriadau nwyon tŷ gwydr na hedfan byd-eang!
Ers y 1960au, mae'r defnydd a wneir o bapur yn fyd-eang wedi cynyddu bedair gwaith ac mae'r defnydd a wneir o bapur argraffu wedi cynyddu chwe gwaith. Mae cyn lleied â 10% o boblogaeth y byd (gorllewin Ewrop a gogledd America) yn gyfrifol am ddefnyddio mwy na 50% o bapur y byd. Mae pobl Ewrop ac America yn defnyddio 6 gwaith mwy o bapur na'r cyfartaledd ar gyfer y byd.
Yma, yn y wlad hon, rydym yn defnyddio tua 12 miliwn tunnell o bapur bob blwyddyn. Mae hynny'n swm anferth!
I gynhyrchu 1 dunnell o bapur gwyryfol, amcangyfrifir bod yr ynni a ddefnyddir gyfwerth â 253 galwyn o betrol a bod 2.6 tunnell o nwyon tŷ gwydr yn cael eu rhyddhau.
Ystadegyn arall yw y bydd pob person yn y DU, yn ôl pob golwg, yn defnyddio tua 4.5 coeden bob blwyddyn, a hynny ar sail defnydd papur yn unig. Mae hynny'n swm sylweddol o goed yn cael eu torri, eu cludo a'u trin i fodloni ein harferion papur ni yn unig.
Mae gweithwyr swyddfa yn y DU yn defnyddio tua 10,000 dalen o bapur A4 bob blwyddyn, yr un. A gan ei bod hi'n cymryd tua 5 litr o ddŵr i gynhyrchu un ddalen o bapur A4, mae hynny'n lawer o bapur a llawer o ddŵr.
Papur a cherdyn yw 1/5 o'r holl wastraff a gynhyrchir yn y DU.
A beth am bapur toiled? Mae'r DU yn defnyddio 1.3m tunnell o bapur toiled y flwyddyn, yn ôl y Confederation of Paper Industries, ac mae defnyddiwr arferol ym Mhrydain yn mynd drwy 127 rholyn bob blwyddyn, yn ôl yr adroddiadau. Gan fod y rhan fwyaf o'r rhain heb eu gwneud o bapur wedi'i ailgylchu, mae llawer o bapur gwyryfol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hyn yn unig. Mae ymgyrchoedd ar y gweill ym mhobman, yn gofyn i weithgynhyrchwyr newid i ddefnyddio ffibr wedi'i ailgylchu a ffibr amgen yn lle defnyddio ffynonellau gwyryfol.
Defnyddir cemegion, megis methanol, tolwen a fformaldehyd yn y broses gwneud papur, ac yn UDA ystyrir bod melinau papur ymhlith y llygrwyr gwaethaf o unrhyw ddiwydiant.
Yn y lle cyntaf, mae angen inni ddefnyddio llai o bapur, yn enwedig mewn pethau megis cwpanau coffi untro, post hysbysebu ac argraffu diangen. Mae hefyd angen inni newid i ddefnyddio mwy o gynhyrchion wedi'u gwneud o bapur wedi'i ailgylchu yn hytrach nag o bapur gwyryfol.
Mae papur wedi'i ailgylchu, er enghraifft, yn cynhyrchu 73% yn llai o lygredd aer nag y mae creu papur o'r newydd. Mae Project Drawdown yn cyfrifo bod papur wedi'i ailgylchu yn allyrru'n uniongyrchol 0.15 tunnell fetrig yn llai o'r hyn sy'n cyfateb i garbon deuocsid fesul tunnell fetrig a gynhyrchir, ar gyfartaledd, o'i gymharu â phapur gwyryfol. Mae hefyd yn cyfrifo y gall papur wedi'i ailgylchu, dros gyfnod o dri deng mlynedd, roi lleihad o 1.10-1.95 gigadunnell o ran allyriadau carbon deuocsid.