Papur
Published: 14 Jan 2022
Yn annisgwyl, efallai, mae gan bapur ôl troed carbon mawr..
Yn ôl papur trafod a gyhoeddwyd gan yr EPN Ewropeaidd yn 2013, mae'n bosib fod papur yn arwain at fwy o allyriadau nwyon tŷ gwydr na hedfan byd-eang, oherwydd y ffordd rydym yn ei gynhyrchu a'i ddefnyddio.
Mae llawer o bapur yn cael ei ddefnyddio'n wastraffus ac efallai mai ychydig wythnosau yn unig y bydd yn ei gymryd i garbon coedwig gael ei dorri, ei fathru, ei gludo ar long, ei ddefnyddio a'i ollwng i'r atmosffer.
Mae'r diwydiant mwydion a phapur yn un o sectorau diwydiannol mwyaf y byd ac mae'n defnyddio tua 40% o'r holl bren diwydiannol a fasnachir ledled y byd, gan gyfrannu at ddatgoedwigo.
Os ydych eisiau rhoi sioc i chi'ch hun, tarwch olwg ar hwn... How much paper has been produced so far this year?
Felly, un peth na ddylem ei anwybyddu yn ein brwydr yn erbyn anrhefn hinsawdd a'r argyfwng natur yw ein defnydd gwastraffus o gynhyrchion papur ffibr gwyryfol. Gall y rhain fod yn gwpanau coffi untro, papur swyddfa, post hysbysebu, derbynebau til neu nwyddau bob dydd, megis papur toiled. Darllen mwy
Beth ydym ni'n galw amdano?
Rydym eisiau i Lywodraeth Cymru ymrwymo i Weledigaeth Fyd-eang yr Environmental Paper Network ar gyfer Papur. Drwy greu Cynllun Gweithredu i Gymru ar gyfer Papur, byddem yn arwain y ffordd i weddill y byd o ran lleihau effaith amgylcheddol papur. Darllen mwy
Pethau y gallwch chi eu gwneud