Garddwriaeth - manteision cymdeithasol a therapiwtig
Published: 28 Feb 2022

Mae Thrive yn elusen sydd â dros 40 mlynedd o brofiad o ddefnyddio garddio i wneud newidiadau cadarnhaol ym mywydau pobl sy'n byw gydag anableddau neu salwch, neu sydd wedi'u hynysu, dan anfantais neu'n agored i niwed.
Maent yn cynnig cymorth, cefnogaeth a hyfforddiant i roi cyfle i bobl ag anghenion amrywiol gael mynediad at raglenni garddio therapiwtig a garddwriaeth, ble bynnag y maent yn byw. Cânt eu hannog i fynd ati i arddio fel rhan o'u cynllun i reoli eu hiechyd a’u lles personol.
Mae eu therapyddion garddwriaethol hyfforddedig yn gweithio gyda phlanhigion a phobl i wella sgiliau iechyd, cyfathrebu a meddwl corfforol a seicolegol unigolion.