Beth am fod yn warden coed?
Published: 28 Feb 2022
Lansiwyd cynllun Wardeniaid Coed y Cyngor Coed ym 1990 ac erbyn hyn mae ganddynt rwydwaith o tua 8,000 o Wardeiniaid Coed.

Mae Wardeniaid Coed yn hyrwyddo coed a choedwigoedd lleol, yn plannu ac yn gofalu am goed ac yn codi ymwybyddiaeth am goed yn eu cymunedau lleol. Mae'n ffordd wych o gyfarfod pobl o'r un anian, helpu natur a diogelu'r blaned.