Glaw-lif
Published: 28 Feb 2022
Mae llawer o bethau y gallwn ni eu gwneud!
Daw amryw o fanteision o blannu coeden neu ddwy (os oes gennych chi le yn eich gardd yn amlwg!) gan gynnwys helpu i leihau rhywfaint o ddŵr ffo o’ch eiddo.
Beth am ardd law?
Gall planhigion, llwyni, gwrychoedd a llefydd glas eraill (yn lle gerddi ffrynt palmantog er enghraifft) hefyd helpu i leihau dŵr ffo o’ch eiddo. Golyga hyn y bydd draeniau storm yn cael llai o ddŵr o ganlyniad, yn enwedig mewn tywydd gwlyb iawn a bydd hefyd yn helpu i leihau rhywfaint o lygredd dŵr ffo. Yma yng Nghymru, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru lawer o wybodaeth.
Yng Nghymru, mae rheoliadau cynllunio penodol i berchnogion tai sy’n dymuno palmantu dros eu gerddi ffrynt.