Dŵr – am beth ydym ni’n galw?
Published: 28 Feb 2022
Yn y DU, mae Defra wedi gosod targed o 130 litr o ddŵr y pen, ar gyfartaledd, pob dydd (l/p/d) erbyn 2030. Byddai’r math hwn o ostyngiad (o 150l/p/d i 130 l/p/d) yn arwain at orfod cyflenwi llai o ddŵr a chyflawni arbedion carbon cysylltiedig.
Mae’r defnydd mewn gwledydd eraill yn Ewrop eisoes yn is na hyn er hynny, gyda’r Almaen yn 121 l/p/d a Gwlad Belg yn 106 l/p/d.
Mae’r Cod Cartrefi Cynaliadwy, er enghraifft, hefyd yn gosod lefelau cyfartalog ar gyfer defnydd dŵr i bob darpar breswylydd mewn tai newydd, gydag amrediad o 120 l/p/d ar gyfer Lefel 1, i 80 l/p/d neu lai ar gyfer y lefelau uchaf (5 a 6).
Er na fyddai’r targedau hyn yn effeithio ar y stoc adeiladau bresennol, ‘mae’r arbedion hyn yn debygol o fod yn bur ymarferol drwy ôl-ffitio offer a ffitiadau sy’n arbed dŵr’.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhagdybio bod hafau yn y DU yn debygol o fod yn boethach ac yn sychach felly dylai’r angen i gadw adnoddau dŵr, lleihau allyriadau hinsawdd ac arbed arian i gwsmeriaid ar eu biliau olygu targed uchelgeisiol ar gyfer defnydd dŵr yng Nghymru.
Wrth ddefnyddio mwy o fesurau cynaeafu dŵr glaw, er enghraifft, gallai hyn leihau defnydd i 80 l/p/d.
Byddem yn dadlau dros gael Llywodraeth Cymru, Dŵr Cymru a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu targedau cenedlaethol ar gyfer defnydd dŵr y pen, a gweithio i ddatblygu meddylfryd o arbed dŵr yng Nghymru a fydd hefyd yn helpu i warchod cartrefi incwm isel rhag ‘dlodi dŵr’.
Byddai targed o 80 l/p/d yn gosod y bar yn uchel ac yn sicrhau ein bod ni’n lleihau ein defnydd dŵr (t.40&41) yng Nghymru, yn lleihau allyriadau hinsawdd o’r sector hwn ac yn lleihau biliau dŵr cartrefi.