Ailddefnyddio dŵr

Published: 28 Feb 2022

Yn ôl y sôn, mae gwerth tua pedwar llond bath o ddŵr yn mynd i’n ffosydd oddi ar do pob tŷ pan fydd hi’n bwrw glaw – mae hynny’n dipyn o ddŵr!
A rain garden in Minneapolis, USA in 2006 (CC BY-SA 4.0)
Gardd law yn Minneapolis, UDA yn 2006 (CC BY-SA 4.0)

Gydag argyfwng yr hinsawdd yn dod â newidiadau mewn patrymau glawiad, a datblygiadau mewn technoleg yn dod â datrysiadau eraill i’r brif ffrwd, mae’n debyg y byddwn ni’n gweld ‘dŵr sydd wedi’i adfer’ yn cael ei ddefnyddio mwy a mwy.    

Gallai hyn gynnwys cynaeafu dŵr glaw oddi ar doeau, neu systemau sy’n ailddefnyddio dŵr ymolchi o’r ystafell ymolchi neu o’r gegin (triniaeth dŵr llwyd). Gan ddibynnu ar faint y mae’r dŵr sydd wedi’i adfer yn cael ei drin, gellid ei ddefnyddio ar gyfer pethau fel dyfrio’r ardd, fflysio’r toiled, ei ddefnyddio mewn peiriannau golchi, golchi ceir, dyfrhau ac ati.

Cewch fwy o wybodaeth yma

Os ydych chi’n ystyried gosod un o’r mathau hyn o systemau adfer dŵr, gofalwch eich bod chi’n cydymffurfio â’r holl reoliadau angenrheidiol. Ewch ar WRAS am fwy o wybodaeth.

 

Pethau y gallwn ni eu gwneud

Dŵr

Amdani!

Share this page