Ymweld â chaffi trwsio
Published: 26 Apr 2022
Fel y gwyddom, mae gan ein harfer ni heddiw o daflu eitemau i ffwrdd oblygiadau ofnadwy, o ddefnydd adnoddau a deunyddiau, a phroblemau allyriadau hinsawdd sy’n gysylltiedig â chael gwared ar eitemau.
Er enghraifft, mae astudiaeth gan North London Waste Authority yn awgrymu ein bod yn taflu bron i ‘22 miliwn o ddarnau bach o ddodrefn, dros 11,000 o feiciau a dros 28 miliwn o deganau’ bob blwyddyn yn y DU.
Dechreuodd y ‘Caffis Trwsio’ yn Amsterdam yn 2009, pan agorodd Martine Postma, amgylcheddwraig frwd, yr un cyntaf a oedd yn llwyddiant aruthrol, ac mae wedi rhoi hwb i fudiad byd-eang.
Yma, mae Caffi Trwsio Cymru wedi bod yn helpu i ddechrau, cynnal a chefnogi caffis trwsio ers mis Ebrill 2017. Maent yn ffordd wych o uno cymunedau, arbed arian a lleihau gwastraff.
Os oes gennych chi rywbeth sydd angen ei drwsio, neu os hoffech chi roi eich amser a’ch sgiliau hyd yn oed, beth am weld a oes caffi trwsio yn lleol i chi?
Dewch i mewn i gaffi trwsio