Benthyca, cyfnewid a rhannu
Published: 26 Apr 2022
Mae’r ‘Economi Rannu’ yn tyfu ledled y byd gyda Llyfrgelloedd Pethau neu ‘Lotiau’ yn dod yn boblogaidd.
Mae Sharing Economy UK yn amcangyfrif: ‘Ar ddechrau 2020, canfu arolwg Ipsos MORI bod 48% o bobl yn y DU wedi prynu, gwerthu, cyfnewid, rhentu, rhannu neu roi rhywbeth gan ddefnyddio’r economi rannu yn ddiweddar. Gyda’r amcangyfrifiad y bydd gwerth y sector yn £1.6bn i’r DU erbyn 2025, mae ei dwf cyflym mewn blynyddoedd diweddar hefyd wedi rhoi gobaith i nifer ohonom am fodel economaidd mwy cynhyrchiol a chynaliadwy yn y dyfodol - un sy’n ein galluogi i rannu mwy a gwastraffu llai.
Heb os, mae Covid-19 wedi cael effaith ar rai o’r llwyfannau hyn, tra bod busnesau a sectorau eraill yn arbrofi â’r ffordd hon o weithredu. Bydd yr economi rannu yn hanfodol wrth helpu i atgyfnerthu cymunedau eto a’n helpu i gyflawni ein nodau allyriadau sero net.
Yng Nghaerdydd, mae menter o’r enw Benthyg wedi’i sefydlu yn Nhredelerch i gynnig y gwasanaeth hwn i’r gymuned leol.
A oes gennych chi un yn eich cymuned chi?