Batris y gallwch eu hailwefru

Published: 26 Apr 2022

Nid ydym yn sôn am fatris Ïon lithiwm yma, ond yn hytrach y mathau AA ac AAA arferol.
Picture of reusable batteries
Creative Commons 2.0

 

 

Mae Recycle More yn amcangyfrif bod tua 40,000 tunnell o fatris cludadwy wedi’u gwerthu yn y DU yn 2018, gydag ond 18,000 tunnell yn cael eu hailgylchu.  

Mae hyn yn gyfystyr â thua 600 miliwn o fatris unigol.  

Rydym i gyd wedi hen arfer gwefru ein ffonau symudol, felly pam nad oes mwy ohonom yn defnyddio batris y gellir eu hailwefru? Maent yn costio mwy i ddechrau, ond gallwch eu hailddefnyddio hyd at 1,000 gwaith, felly byddwch yn arbed swm sylweddol o arian yn y pen draw.

Mae sawl problem amgylcheddol sydd ynghlwm â batris, felly dewiswch deganau neu dortshis nad ydynt yn cael eu pweru gan fatris er enghraifft, neu symudwch at ddefnyddio batris y gallwch eu hailwefru.

 

Pethau y gallwn ni eu gwneud

Diwastraff

Amdani!

Share this page