Cynlluniau ffeirio gwisg ysgol

Published: 28 Mar 2022

Mae pawb ohonom yn gwybod pa mor gyflym mae plant yn tyfu a pha mor aml maent yn tyfu’n rhy fawr i’w gwisg ysgol. Felly, mae’n wirion nad oes yna ateb gwell na gorfod prynu gwisg ysgol newydd pob tro.

Picture of school pinafores on hangers, hanging from top of a wardrobe

 

Mae Comisiynydd Plant Cymru a’i staff wedi bod yn brysur yn gweithio gydag ysgolion a chymunedau ar gynllun ffeirio gwisg ysgol i helpu arbed arian i bobl a helpu i leihau effaith gwisgoedd ysgol ar yr amgylchedd.

Os oes gennych chi blant mewn ysgol leol ble nad oes cynllun ffeirio dillad ysgol yno ar hyn o bryd, beth am i chi bicio draw am sgwrs ynghylch cychwyn un?  

Gallai hefyd fod yn ffordd hwyliog i’r plant ddysgu mwy am effaith dillad a thecstilau ar ein planed. 

 

Pethau y gallwn ni eu gwneud

Ffasiwn Gynaliadwy

Amdani!

Share this page