Cwyno, plagio, lobïo
Published: 3 Feb 2022
Dywedwch wrthyn nhw eich bod yn bryderus ynglŷn â glyffosad, dywedwch wrth archfarchnadoedd eich bod am iddyn nhw gymryd camau o ran oeri a rhewi bwydydd.
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru a llawer o sefydliadau eraill yn ceisio annog newidiadau yn y darlun mawr yn gyffredinol, o lywodraethau i fusnesau.
Ond y llais pwysicaf yw eich llais chi. Os hoffech weld newid cadarnhaol, y peth cyntaf a’r peth gorau y gallwch ei wneud bob amser yw cwyno, plagio a lobïo busnesau, eich cyngor lleol, Aelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol.
Dywedwch wrthyn nhw eich bod eisiau iddyn nhw gymryd camau ynglŷn â chemegau, dywedwch wrthyn nhw eich bod yn bryderus ynglŷn â glyffosad, dywedwch wrth archfarchnadoedd eich bod am iddyn nhw gymryd camau o ran oeri a rhewi bwydydd.
Os bydd digon ohonon ni’n cwyno ac yn dal ati i gwyno, bydd busnesau a gwleidyddion yn siŵr o gymryd camau! Does dim rhaid ichi hyd yn oed aros am ymgyrchoedd arbennig er mwyn dweud eich dweud – rhowch wybod i’r cwmnïau, y gwleidyddion a’r busnesau beth yw eich barn.