Olew palmwydd
Published: 19 Jan 2022
Mae ôl troed amgylcheddol a charbon enfawr yn perthyn i olew palmwydd. Cymerodd y naturiaethwr teledu, Steve Backshall, gipolwg diddorol ar y sefyllfa yn Borneo yn ei raglen ar y BBC ‘Deadly 60’ (rhyw 07.30 munud wedi i’r rhaglen ddechrau).
Mae Sw Caer wedi bod yn weithgar iawn yn codi proffil y materion sy’n ymwneud ag Olew Palmwydd. Edrychwch ar ei wefan ac efallai y gallech ystyried gweithio gydag eraill i ddechrau ymgyrch olew palmwydd lleol neu beth am ddod yn hyrwyddwr i olew palmwydd cynaliadwy ?
Edrychwch ar eich cynnyrch i weld a ddefnyddiant olew palmwydd a dechrau gwneud newidiadau, o gynhyrchion sy'n cynnwys olew anghynaliadwy i rai sy'n cynnwys olew cynaliadwy.
Mae gan WWF gardyn sgorio olew palmwydd lle gallwch wirio sefyllfa eich hoff frandiau mawr o ran olew palmwydd cynaliadwy. Os gwelwch nad ydyn nhw'n sgorio'n dda, yna ysgrifennwch atynt, anfonwch e-bost, ac annog eraill ar y cyfryngau cymdeithasol i wneud yr un peth.