Bwyd – prynwch yn foesegol
Published: 19 Jan 2022
Mae amrywiaeth o ffyrdd y gallwn oll wneud ein rhan trwy newid ychydig ar ein harferion siopa.
Mae cocoa, er enghraifft, yn un o brif resymau y ceir datgoedwigo a chredir ei fod wedi ‘dinistrio coedwig maint Gwlad Belg rhwng 1988 a 2008.’
Beth am ymuno â chynllun bocs organig?
Prynu mwy o gynnyrch lleol, mwy o gynnyrch cynaliadwy a chynnyrch Masnach Deg lle gallwch?
Daw tyfu ffa soya â chost amgylcheddol anferth yn ei sgil a chaiff 75% ohonynt eu tyfu i fod yn fwyd i anifeiliaid. Daw y rhan fwyaf ohonynt o leoliadau lle mae risg uchel o ddatgoedwigo ac o ecosystemau bregus, megis y Cerrado yn Ne America. Cymerwch olwg ar yr adroddiad gwych hwn gan WWF a syniadau am weithredu ymhellach. Ystyriwch gefnogi eich llaethdai lleol a lleihau gwastraff poteli llefrith trwy gael danfon eich llefrith. Chwiliwch am y gwasanaeth hwn yma.
Cymerwch olwg ar ein hadran dim gwastraff.
Gall prynu bwyd organig helpu i ostwng y gostyngiad byd-eang mewn trychfilod a hefyd leihau’r defnydd a wneir o gemegau niweidiol. Cefnogwch gynlluniau a busnesau organig lleol a meddyliwch am fwyta ‘yn ôl y tymor’. Gall
cynhyrchu cnau almwn ar raddfa ddwys beri amrywiaeth o broblemau, o blanhigfeydd mawr ungnwd, gwneud defnydd mawr o blaladdwyr ac angen symud nifer fawr o wenyn, ar raddfa ddiwydiannol, i’r ardaloedd er mwyn cynorthwyo’r peillio. Ceisiwch brynu gnau almwn sy’n gyfeillgar i wenyn.