Bwyd – beth yw’r broblem?

Published: 19 Jan 2022

Datgan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd bod allyriadau amaethyddiaeth yn cyfrif am 13% o allyriadau Cymru.

 

Aberystwyth's Farmers market

Marchnad Ffermwyr Aberystwyth (Credyd: Keith Thomas)

Mae ffermio’n sector pwysig i economi Cymru. Ond mae'n llawer mwy na hynny. Mae gan ffermio bwysigrwydd diwylliannol cryf i’r genedl. Mae llawer o ffermydd teuluol wedi bod yn y teulu ers cenedlaethau a ffermio yw asgwrn cefn llawer o gymunedau. Mae bron i 90% o dir Cymru yn dir amaeth.

Fodd bynnag, yn y DU, dim ond oddeutu 55% o’r bwyd yr ydym yn ei fwyta y byddwn yn ei gynhyrchu  ac, yma yng Nghymru, defnyddir llai na 0.1% o’n tir i dyfu llysiau.

Mae’r bwyd yr ydym yn ei fwyta yn ychwanegu at ein hôl troed carbon mewn amryfal ffyrdd.  

Datgan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd bod allyriadau amaethyddiaeth yn cyfrif am 14% o allyriadau Cymru.  

P’run a ddewiswn fwyta cig ai peidio, gŵyr pawb ohonom yr effeithiau y mae cynhyrchu cig a llaeth (yn arbennig systemau dwys) yn eu cael ar ein planed.

Dywed Gwyddonwyr mai osgoi bwyta cig a chynnyrch llaeth yw’r un ffordd fwyaf o leihau ein heffaith amgylcheddol ar y blaned.  

Dengys ymchwil y gellid lleihau y defnydd a wneir o dir ffermio yn fyd-eang fwy na 75% - ardal sy'n cyfateb i'r Unol Daleithiau, Tsieina, yr Undeb Ewropeaidd ac Awstralia gyda'i gilydd – wrth beidio â bwyta cig a chynnyrch llaeth a dal i fwydo'r byd. Colli ardaloedd gwyllt i amaethyddiaeth yw’r prif reswm am dranc torfol bywyd gwyllt

Yn y DU, mae amaethyddiaeth hefyd yn gyfrifol am 83% o lygredd aer gan amonia ac 16% o lygredd dŵr.

Yn y cyd-destun hwn, hawdd yw gweld pam fod llawer mwy o bobl yn dewis deiet nad yw’n cynnwys cig a chynnyrch llaeth neu’n troi i fwyta llai o gig, a hwnnw’n well cig, a chefnogi cynhyrchwyr lleol o ansawdd da yn lle prynu cig gan anifeiliaid rhad sy’n cael eu magu’n ddwys. 

Amcangyfrifa Project Drawdown : 

‘Os yw 50-75 y cant o boblogaeth y byd yn cyfyngu eu deiet i gyfartaledd iach o 2,250 o galorïau’r dydd ac yn lleihau’r cig a fwyteir yn gyffredinol, amcangyfrifwn y gellid osgoi o leiaf 43-68 gigaton o allyriadau, wrth newid deiet yn unig. Os cynhwysir datgoedwigo sy’n cael ei osgoi oherwydd newid defnydd tir, gellid osgoi 21.8-23.5 gigaton ychwanegol o allyriadau, gan wneud deietau iach, llawn planhigion yn un o’r atebion sy’n cael yr effaith fwyaf, gan osgoi cyfanswm o 64.8-91.5 gigaton’.

Share this page