Bwyd – yr hyn yr ydym yn galw amdano

Published: 19 Jan 2022

Picture of highland cattleFferm organig yn perthyn i Nigel Elgar, Fferm Cannon yn Sir Drefaldwyn, sydd wedi bod yn gwbl organig ers 1993.

Mae sut y caiff tir ei ffermio hefyd yn cael effaith sylweddol iawn ar bob agwedd ar berfformiad amgylcheddol. Mewn sawl achos, nid yw arferion ffermio cyfredol yn ddigon cynaliadwy ac mae angen cefnogi ffermwyr i drosglwyddo i ddulliau ffermio mwy cynaliadwy, yn ogystal â rhoi cymorth iddynt arallgyfeirio (er enghraifft, trwy gynyddu cynhyrchiant pren Cymru). Mae rhai ffermwyr ar flaen y gad yn y newid hwn (y Rhwydwaith Ffermio sy’n Natur Gyfeillgar, er enghraifft) ac mae arnom angen system yn ei le i gefnogi llawer mwy ohonynt i groesi’r bont hon. Mae’n arbennig o bwysig cysoni taliadau i ffermwyr ag arferion ffermio cynaliadwy, gan ddilyn ethos arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus a chefnogi arfer da.

O’r herwydd, roeddem yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar bolisi newydd Ffermio Cynaliadwy ac Ein Tir ac o blaid symud tuag at system o ffermio lle rheolir y tir yn gynaliadwy. 

Hoffem weld cefnogaeth i:

  • Systemau fferm gyfan sy'n cefnogi natur a dal a storio carbon, a fyddai'n sicrhau'r ystod fwyaf o ganlyniadau buddiol (ymhlith y rhain mae cynhyrchu organig, amaethyddiaeth adfywio, a dim troi tir)
  • Amaethgoedwigaeth, creu ac adfer coetiroedd, a chynyddu perthi
  • Llai o wrtaith, plaladdwyr a gwrthfiotigau ac ati. Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi gosod targed i leihau’r defnydd a wneir o blaladdwyr gan 50% erbyn 2030
  • Gwella iechyd y pridd a lleihau llygredd amonia
  • Gwella iechyd a lles anifeiliaid, gyda da byw sy'n cael eu bwydo ar dir pori
  • Gwarchod, adfer a chreu cynefinoedd.

Yr hyn sy’n bwysig yw bod angen sicrhau bod newidiadau angenrheidiol i daliadau ffermio o ganlyniad i Brexit yn gweithio i Ffermwyr Cymru, gan gynnwys ar gyfer gweithgareddau tymor hwy, megis plannu coed, o gofio bod cyfran fawr ohonynt yn denantiaid â thenantiaethau tymor byr (tua 5 mlynedd).

Llai ond gwell                

Mae’rdystiolaeth o'r angen i leihau'r defnydd a wneir o gig a chynnyrch llaeth am resymau newid hinsawdd bellach yn aruthrol. Mae hefyd yn cyd-fynd â chyngor iechyd. Mae Cyfeillion y Ddaear ac eraill yn galw am leihad o 50% yn y cig a’r llaeth a fwyteir erbyn 2030. O ran polisi bwyd a ffermio yng Nghymru, rhaid canolbwyntio ar gynhyrchu llai, ond ei gynhyrchu’n well, a rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei dylanwad ac ymgyrchu yn erbyn unrhyw gytundebau masnach yn y DU yn y dyfodol a fyddai’n tanseilio’r dull hwn drwy ganiatáu i lai o fewnforion cynaliadwy orlifo’r farchnad. Wrth gael llai o gig a chynnyrch llaeth, ceir cyfle i greu amaeth-goedwigaeth a choedlannau. Rhaid cadw rhywfaint o'r coetir newydd ar gyfer bywyd gwyllt ond gellir defnyddio rhai ar gyfer cynhyrchu pren. Byddai cynhyrchu mwy o bren yng Nghymru yn helpu i leihau’r nifer enfawr o goed a gaiff ei fewnforio i’r DU, yn ogystal â sicrhau pren ychwanegol ar gyfer y defnydd cynyddol a wneir o bren wrth godi adeiladau.

Hoffem hefyd weld ymrwymiad i gynnal y gwaharddiad ar gnydau GM sydd wedi'u cynllunio ar gyfer ffermio dwys ac amgylcheddol niweidiol. 

 

Labelu bwyd

Er mwyn helpu economi Cymru a chynaliadwyedd ffermio, dylid cynhyrchu a bwyta bwyd yn lleol cymaint â phosibl a dylid rhoi pwyslais cryf ar hyn wrth gaffael yn y sector cyhoeddus.

Gallai cynllun bwyd Cymreig newydd, gwirfoddol, cynllun label eco, gefnogi pobl i brynu'n lleol. Byddai’r cynllun hwn, a ddatblygwyd gyda chynhyrchwyr a grwpiau cymdeithas sifil, yn nodi faint o allyriadau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu a chael cynnyrch i'r farchnad.

Nid yw mewnforio ac allforio o bellter fwydydd y gellir eu tyfu yng Nghymru yn gwneud unrhyw synnwyr yn amgylcheddol ac nid yw'n gallu gwrthsefyll toriadau rhyngwladol yn y gadwyn gyflenwi.

Pan brynwn beiriant golchi neu oergell, bydd iddo sgôr effeithlonrwydd ynni, felly pam ddim i fwyd?

Wrth gaffael bwyd yn gyhoeddus, dylid rhoi blaenoriaeth i brynu bwyd a gynhyrchir yng Nghymru, sydd mor lleol â phosibl, a bodloni safonau bwyta’n iach sy’n gofyn am leihad sylweddol yn y cig a’r cynnyrch llaeth a fwyteir. Byddai datblygu label eco Cymreig, gwirfoddol yn cynorthwyo hyn.

Canfu gwaith ymchwil yr Ymddiriedolaeth Garbon yn 2019 bod dwy ran o dair o ddefnyddwyr yn cefnogi’r syniad o label carbon adnabyddadwy i ddangos bod cynhyrchion wedi’u gwneud gydag ymrwymiad i fesur a lleihau eu hôl troed carbon.

Ym mis Ionawr 2020, daeth Quorn y brand mawr cyntaf i gyflwyno labelu carbon ar ei gynnyrch 

Pethau y gallwn eu gwneud

Bwyd

Amdani!

Share this page