Prynu’n foesegol

Published: 4 Feb 2022

Fel defnyddwyr, mae gennym bŵer i wneud dewisiadau a all ddangos ein bod yn cefnogi’r busnesau a’r cwmnïau hynny sy’n ymddwyn yn foesegol, ynghyd â phŵer i gyfleu negeseuon cryf i’r cwmnïau hynny y mae angen iddyn nhw newid.

Fair trade posters

 

Pan soniwn am gyllid ac i bwy y rhoddwn ein harian, mae llawer o’r dewisiadau a wnawn yn ymwneud â phethau a brynwn o ddydd i ddydd.

Mae’r Co-op wedi cyhoeddi astudiaeth ar wariant moesegol defnyddwyr, a dengys fod cyfanswm y farchnad – yn cynnwys bwydydd, diodydd, dillad, ynni ac ecodeithio – wedi tyfu o £11.2 biliwn ym 1999 i fwy na £41.1 biliwn y flwyddyn yn y DU.

Fel y nodwyd eisoes mewn adrannau eraill ar y tudalennau hyn, mae yna lu o wahanol wasanaethau a chynhyrchion y gallwn eu prynu a’u cefnogi, a thrwy hynny ein helpu i leihau ein hôl troed carbon ein hunain, boed hynny trwy siopa’n lleol (dolen at yr adran honno) a chefnogi cynhyrchwyr lleol neu drwy chwilio am y darparwyr mwyaf moesegol. Dyma rai gwefannau eraill a allai fod yn fuddiol:

Ethical Shop 

Ethical Consumer 

The Good Shopping Guide 

Moral Fibres 

Mae yna lu o apiau da i’w cael y dyddiau hyn – dyma sampl. Cofiwch roi gwybod inni pa rai a ddefnyddiwch a pha rai sy’n mynd â’ch bryd.

Cymerwch gipolwg ar ein tudalen Bwyd – prynu’n foesegol.

 

Pethau y gallwch chi eu gwneud

Arian

Amdani!

Share this page