Cwyno, plagio, lobïo!

Published: 4 Feb 2022

Os byddwch yn symud eich cyfrif banc neu eich pensiwn at ddarparwr mwy moesegol, yna rhowch wybod i’ch darparwr presennol pam ydych chi’n symud.
Someone typing on a laptop
Photo by Christin Hume on Unsplash

 

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru a llawer o sefydliadau eraill yn ceisio annog newidiadau yn y darlun mawr yn gyffredinol, o lywodraethau i fusnesau.

Ond y llais pwysicaf yw eich llais chi. Os hoffech weld newid cadarnhaol, y peth cyntaf a’r peth gorau y gallwch ei wneud bob amser yw cwyno, plagio a lobïo cwmnïau, Aelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol.

Os byddwch, er enghraifft, yn symud eich cyfrif banc neu eich pensiwn at ddarparwr mwy moesegol, yna rhowch wybod i’ch darparwr presennol pam ydych chi’n symud.

Os bydd digon ohonon ni’n cwyno ac yn dal ati i gwyno, bydd busnesau a gwleidyddion yn siŵr o gymryd camau! Does dim rhaid ichi hyd yn oed aros am ymgyrchoedd arbennig er mwyn dweud eich dweud – rhowch wybod i’r cwmnïau, y gwleidyddion a’r busnesau beth yw eich barn.

 

Pethau y gallwch chi eu gwneud

Arian

Amdani!

Share this page