Amdani! - pam?
Published: 30 Mar 2022
Newid hinsawdd ac argyfwng ecolegol
Mae’r effaith tŷ gwydr, newid hinsawdd, argyfwng hinsawdd, cynhesu byd-eang...sef yr enw a roddir i’r sefyllfa druenus y mae ein planed ni ynddi, wedi newid wrth i amser fynd yn ei flaen, ond mae’r problemau yn dal yno.
Yn ystod yr amser hwn, mae gwyddoniaeth yn amlwg wedi esblygu ac mae gwybodaeth am y sefyllfa yr ydym ni ynddi bellach yn gyffredin.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llywodraethau a busnesau wedi dechrau dod i sylweddoli bod yr argyfwng hinsawdd yn bodoli.
Wrth fod rhai wedi treulio blynyddoedd ddim yn gweithredu, yn osgoi ac yn gwadu, rydym ni i gyd bellach mewn sefyllfa lawer gwaeth nag y byddem ni fod wedi bod ynddi fel arall. Nid oes pwrpas rhoi siwgr ar y bilsen honno.
Ar yr un pryd â hyn i gyd, mae natur o gwmpas y byd wedi’i chael hi’n ddrwg hefyd. Mae bioamrywiaeth mewn trybini, targedau rhyngwladol yn cael eu methu, cyfraddau datgoedwigo yn erchyll, ansawdd aer yn ofnadwy i lawer (llygredd aer o losgi tanwyddau ffosil fel glo ac olew oedd yn gyfrifol am ryw 8.7m o farwolaethau yn y byd yn 2018, neu o gwmpas un ym mhob 5 a fu farw y flwyddyn honno). Ac, mae ‘stwff’ plastig wedi’i daflu ym mron pob man yr edrychwn.
Yn ôl ffigyrau, rydym bellach mewn sefyllfa ble gallwn ni ond fforddio llosgi un rhan o ddeuddeg o’r tanwyddau ffosil yr ydym ni wedi’u darganfod yn barod, ac eto mae cwmnïau tanwyddau ffosil yn dal i chwilio am fwy o gronfeydd o gwmpas y byd.
Yn rhyfedd ddigon, mae ychydig o resymau i fod yn obeithiol, os – a dim ond os – yr ydym ni’n gwneud popeth bosibl...ac yn gyflym.
Y Byd
Yn yr 1850au, roedd y gwyddonydd amatur di-nod o America, Eunice Foote, yn cynnal arbrofion a ddangosai gallu anwedd dŵr atmosfferig a charbon deuocsid i effeithio ar wresogi drwy’r haul.
Ymlaen â ni i heddiw ble mae crynodiad nwyon tŷ gwydr ar eu huchaf mewn dwy filiwn o flynyddoedd a ble gwelwyd y flwyddyn 2021 yn cael ei chofnodi yn un o’r saith boethaf gyda thymereddau byd-eang tua 1.11 gradd Celsius yn gynhesach na chyn y cyfnod diwydiannol. Mae gwyddoniaeth yn dweud wrthym am gadw cynhesu byd-eang yn llai na 1.5 gradd Celsius os ydym i gael unrhyw obaith o osgoi effeithiau gwaethaf un newid hinsawdd.
Mae gwledydd ledled y byd eisoes yn gweld canlyniadau newid hinsawdd – y tymereddau uchaf, tanau fforest trychinebus, sychder difrifol a phrinder dŵr, bioamrywiaeth sy’n dirywio’n gyflym, lefel y môr yn codi a chapanau rhew a rhewlifau yn toddi.
Er mwyn osgoi effeithiau newid hinsawdd ar eu gwaethaf, mae angen i ni leihau allyriadau carbon deuocsid ar draws y byd, a hynny’n sylweddol.
Nid lefelau CO2 yn unig sy’n codi. Codi hefyd y mae methan, sef nwy sy’n gallu cynhesu’r byd 30 gwaith yn fwy na C02 dros gyfnod o gan mlynedd. Mae mapio byd-eang bellach yn gallu gweld ble mae’r crynodiadau uchaf o fethan.
Wrth gwrs, roedd trafodaethau newid hinsawdd COP26 yn Glasgow yn Hydref 2021 yn siom mewn llawer o ffyrdd. Er hynny, roedd rhywfaint o drobwynt o safbwynt lefel y diddordeb a ddangosodd y cyfryngau a’r cyhoedd o gymharu â thrafodaethau COP blaenorol. Ond yn fwy na dim, mae angen i’r trafodaethau ddynodi degawd newydd o weithredu byd-eang heb ei debyg gan bob gwlad, pob corfforaeth, pob cymuned a phob un ohonom ni yn unigol hefyd.
Yn 2021, cynhaliodd Rhaglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig arolwg amrywiol ar agweddau’r cyhoedd a gwelwyd bod pobl eisiau gweld mwy o weithredu ar newid hinsawdd.
Er bod cryn dipyn yn fwy o sylw wedi’i roi i faterion newid hinsawdd yn y blynyddoedd diwethaf, mae’n dal yn gallu bod braidd yn ddryslyd gyda phob math o ystadegau ar hyd y lle. Mae gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) adran cwestiynau cyffredin ddefnyddiol iawn ar eu gwefan sydd yn gobeithio ateb llawer o’r cwestiynau anodd hynny am newid hinsawdd.
Mae’r Swyddfa Dywydd a’r BBC wedi dod at ei gilydd i edrych ar y cwestiwn
‘Sut fydd newid hinsawdd yn edrych wrth f’ymyl i?’ Ac ar draws y byd, sut allai 2050 edrych oni bai ein bod ni’n gweithredu’n briodol nawr?
Er nad yw’n ddrwg i gyd, mae angen cynyddu maint a difrifoldeb y gweithredu yn y cyfnod hyd at 2030 os ydym am gael unrhyw obaith o osgoi newid hinsawdd dilyffethair. Drwy gymryd camau pendant nawr, gellir osgoi’r canlyniadau gwaethaf o gyrraedd ‘pwyntiau tyngedfennol’ allweddol yn yr hinsawdd.
Gyda datblygiadau byd-eang yn digwydd drwy’r adeg, bydd hi’n amhosib bron diweddaru’r tudalennau hyn ond gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy edrych ar Climate Action Tracker.
Cymru
Ar y cyfan, mae allyriadau ar draws gwahanol sectorau yng Nghymru yn gostwng. Yn ôl y data diweddaraf, a gyhoeddwyd yn 2021, (hyd at 2019), roedd allyriadau yng Nghymru 31% yn is na lefelau 1990. Rhagor o newydd da yw bod gwerth 51% o ddefnydd trydan Cymru wedi’i gynhyrchu o ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn 2019.
Ni allwn laesu dwylo, er hynny. Yn y cyfnod 2018-2019, mae’n destun pryder mai codi ddaru allyriadau o’r sector amaethyddiaeth a’r sectorau diwydiannol a busnes.
Yn Hydref 2021, cyhoeddodd Lywodraeth Cymru gynllun Cymru Sero Net Cyllideb Garbon 2 (2021-2025). Mae’r Cynllun hwn yn nodi 123 o bolisïau a chynigion i helpu i leihau allyriadau hinsawdd yng Nghymru.
Yn ogystal â’r cynllun Cymru Sero Net, mae gan Lywodraeth Cymru lu o bolisïau a chynlluniau eraill sy’n rhoi sylw i newid hinsawdd.
Mae gan StatsCymru ddadansoddiad difyr o allyriadau fesul sector a blwyddyn.
Ni fydd gweithredu i gyrraedd ‘sero net’ yn rhad ond mae’n fforddiadwy ac nid yw peidio â gweithredu yn opsiwn. Yn ddifyr iawn, mae economi carbon isel y DU bellach yn cyflogi mwy na 1.2miliwn o bobl ac mae’n fwy na £200bn i economi’r DU. Mae hyn bron i bedair gwaith maint y sector gweithgynhyrchu.
Er bod angen i lywodraethau a busnesau weithredu ar lefel uchel i atal argyfwng trychinebus dilyffethair yn yr hinsawdd, ein rôl ni fel unigolion yw eu gwthio i’r cyfeiriad angenrheidiol (ac o fewn yr amserlen angenrheidiol), ond hefyd yn ein bywydau o ddydd i ddydd ac yn ein cymunedau.
Mae gennym amser o hyd i weithredu – cael a chael!
Mae rhywfaint o oleuni ar ddiwedd y twnnel, efallai, gobeithio!
Yn ôl gwyddoniaeth, mae’n ymddangos y gallwn sefydlogi tymereddau byd-eang yn gyflymach nag a feddyliwyd ynghynt, os gallwn leihau allyriadau yn sylweddol ac yn gyflym. Er gwaethaf cyflwr truenus rhai o foroedd a chefnforoedd y byd, ymddengys hefyd bod gobaith y gallant gael eu hadfer i’w ‘hen ogoniant’ ymhen deng mlynedd ar hugain o weithredu nawr.
Dylai hyn roi’r hwb ychwanegol i bawb ohonom i gymryd camau pendant a buan, yn unigolion, yn llywodraethau, yn fusnesau ac yn gymunedau.
Mae cyflymdra’r gweithredu yn allweddol, er hynny. Edrychwch ar yr erthygl hon o 2009, ble ydych chi’n meddwl yr ydym ni arni nawr o gymharu â’r erthygl hon?
Rhestr wirio hinsawdd bersonol
Mae angen newid y darlun mawr. Mae angen i lywodraethau, corfforaethau a busnesau i gyd weithredu’n chwim ond a fyddwn ni’n dal yn gallu gwneud digon o wahaniaeth, yn unigol? Yn bendant!
Os mai un person yn llythrennol fyddai’n gweithredu, yna ni fyddai’r gwahaniaeth i’w deimlo ond nid ydym ni yn y sefyllfa honno. Mae miliynau ohonom eisoes yn gweithredu ac yn gwneud newidiadau, ond beth arall allwn ni ei wneud?
Unwaith y byddwn ni wedi newid y bylbiau golau, wedi addo cerdded a beicio mwy ac efallai newid ein diet rhyw fymryn, pa bethau eraill y dylem ni fod yn eu gwneud? A yw’r newidiadau hyn yn anodd ac a fyddant yn costio tipyn o arian i ni? Yn y rhan fwyaf o achosion, na - nid ydynt yn anodd, ac na – ni fyddant yn costio mwy, felly mae’n gwneud synnwyr ariannol i wneud pethau ychydig yn wahanol ac nid yw’n fawr o strach ychwaith.
Er mai’r un peth gorau y gallwn ni ei wneud yw galw ar lywodraethau a busnesau mawr i newid gan fod angen i ni hybu newidiadau mawr yn gyflym, mae amryw byd o bethau eraill y gallwn ni eu gwneud. Meddyliwch amdanynt fel rhestr wirio hinsawdd, rhywbeth i weithio drwyddi a rhoi tic yn erbyn pob gweithred pan fyddwch chi wedi’i gwneud er mwyn i chi leihau eich ôl-troed carbon chi.
Er bod Cyfeillion y Ddaear Cymru a’n grwpiau gwirfoddol lleol o gwmpas y wlad yn gweithio ar amrywiaeth eang o faterion, nid oes gennym y modd i weithio ar bob mater, felly rydym ni’n fwy na bodlon tynnu sylw at y gwaith ardderchog mae eraill yn ei wneud a’ch cyfeirio chi at yr adnoddau a’r syniadau sydd ganddynt ar bob math o wahanol faterion. Bydd rhai ohonynt, wrth gwrs, yn fwy neu’n llai perthnasol yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Efallai bydd rhai o’r syniadau am weithredu ar y tudalennau hyn yn newydd i chi, ond mae’n debyg na fydd y rhan fwyaf. Mae’n debyg y bydd llawer ohonom eisoes yn gwneud llawer o’r pethau hyn, ond gobeithio ein bod ni wedi llwyddo i gynnwys rhai sydd ychydig yn wahanol hefyd.
Gall rhai pethau edrych yn bitw o gymharu ag eraill, ond maen nhw’i gyd yn cyfrif. Os ydym ni’n wirioneddol eisiau atal newid hinsawdd dilyffethair ac atal difrod i fioamrywiaeth, yna bydd rhaid i ni roi sylw i hyd yn oed rhai o’r problemau llai hyn ar ryw adeg neu’i gilydd beth bynnag, felly pam ddim nawr? Nid yw’n ddadl dros ddewis y ‘naill neu’r llall’, felly beth am geisio datrys cymaint o faterion ag y gallwn, mor gyflym ag y gallwn.
Cofiwch ddweud wrthym sut hwyl gewch chi!