Papur gwyn Deddf Aer Glân - ein hymateb

Published: 15 Jan 2021

Yn ddiweddar, lansiodd Llywodraeth Cymru ei phapur gwyn aer glân yn nodi cynlluniau ar gyfer Deddf Aer Glân i Gymru

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru a Is-gadeirydd o Awyr Iach Cymru:

"Mae hon yn foment arwyddocaol i'n cenedl. Mae'n golygu ein bod un cam yn agosach at Ddeddf Aer Glân i Gymru ond nawr yw'r amser i weithredu. Ni allwn aros blynyddoedd i gael deddfwriaeth ar waith.

"Mae llygredd aer yn lladdwr distaw, felly mae angen Deddf Aer Glân ar gyfer Cymru cyn gynted â phosibl, nid mewn blynyddoedd i ddod.

"Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda phartneriaid a symud hyn ymlaen ar frys i gyflwyno deddf a fydd yn glanhau ein haer ac yn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth."

 

Dywedodd Joseph Carter, Cadeirydd Air Cymru a Phennaeth Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru:

“Mae’r Papur Gwyn hwn yn gam enfawr ymlaen yn ein brwydr i greu dyfodol iachach i Gymru ac mae’n adlewyrchu’r consensws gwleidyddol cynyddol rydym yn ei weld.

“Rydym yn falch bod y papur yn cynnwys mesurau i; gynyddu’r broses o fonitro ac asesu lefelau llygredd aer, i fynd i’r afael â’r broblem o gerbydau yn aros yn eu hunfan a’r injan yn troi, i atal llosgi yn yr awyr agored, a mwy. Croesawn hefyd yr ymrwymiad i adolygu’r cynllun bob 5 mlynedd. 

“Fodd bynnag, mae’r amserlen bresennol ar gyfer deddfu’r ddeddfwriaeth hon yn llawer rhy araf. Addawodd y Prif Weinidog gyflwyno Deddf Aer Glân eleni, cyn yr etholiad eleni. Nawr cawsom wybod y gallai fod mor hwyr â 2024 cyn i unrhyw reoliadau ddod i rym. 

“Rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd ac iechyd cyhoeddus ac mae angen gweithredu arnynt nawr, nid mewn 3 blynedd. Os yw mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac adeiladu dyfodol glanach, gwyrddach ac iachach yn flaenoriaeth wirioneddol gan Lywodraeth Cymru – yna mae angen iddynt weithredu felly.  

“Mae’n rhaid iddyn nhw fabwysiadu amserlen fwy uchelgeisiol, mae hyn yn rhy bwysig i beidio â’i gymryd o ddifrif.”

Share this page