Adroddiad yr IPCC ar yr hinsawdd - ein hymateb

Published: 13 Aug 2021

Gwyddonwyr hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (CU) yn cyhoeddi rhybudd trawiadol. Cyhoeddwyd eu hadroddiad ar 9 Awst 2021, ac mae’n agoriad llygad enfawr.

Photo of Haf Elgar

Wrth ymateb i’r adroddiad arwyddocaol hwn ar yr hinsawdd gan y CU, dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru

“Mae llifogydd, tywydd poeth a thrychinebau eraill eisoes yn effeithio ar fywydau yma yng Nghymru a ledled y byd. Mae’r adroddiad hwn yn profi y bydd digwyddiadau tywydd eithafol yn dod yn fwy cyffredin a dwys.

“Mae’n agoriad llygad enfawr - os ydym eisiau creu planed y mae modd byw arni mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth nawr. Mae pob ffracsiwn o radd yn fwy pwysig nag erioed.

“Er mwyn arbed bywydau, bywoliaethau a’n byd naturiol gwerthfawr, mae’n rhaid i ni drin yr argyfwng hinsawdd fel argyfwng go iawn. Mae gennym ni i gyd ran i'w chwarae.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Prydain roi’r gorau i gefnogi prosiectau tanwyddau ffosil ac isadeiledd carbon uchel megis ffyrdd a meysydd awyr. Gallant ddechrau drwy ganslo cynlluniau ar gyfer maes olew Cambo yn yr Alban a chael gwared ar gloddfa lo yng Nghymbria.

“Mae Llywodraeth Cymru, gyda’i gweinyddiaeth newid hinsawdd newydd, mewn gwell sefyllfa i gymryd y camau hanfodol i leihau allyriadau sy’n niweidiol i’r hinsawdd, ac mae’r gohiriad mewn adeiladu ffyrdd newydd yn dangos y gellir gwneud penderfyniadau beiddgar.

“Cyn y trafodaethau rhyngwladol ar yr hinsawdd yn Glasgow, bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi cynllun i leihau allyriadau sy’n niweidiol i’r hinsawdd. Mae’n rhaid i’r cynllun hwn fod yn uchelgeisiol er mwyn adlewyrchu’r anghenraid a osodwyd gan adroddiad yr IPCC.”

 

Share this page