Ynni – beth yw’r broblem?

Published: 4 Feb 2022

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae yna newidiadau mawr wedi digwydd o ran ble yn union y cawn ni ein trydan.

 

Solar panels
CC BY NC-ND 2.0

 

Yn 2020, deilliodd mwy o drydan y DU o ynni adnewyddadwy nag o danwyddau ffosil. Ac yng Nghymru, daeth 51% o’r trydan a ddefnyddiwyd yn 2019 o ffynonellau adnewyddadwy.

Ond roedd trydan a chynhyrchu gwres yn dal i fod yn gyfrifol am 19% o allyriadau Cymru yn 2019; ac o’r herwydd, hwn oedd y sector gwaethaf ond un o ran allyriadau (tudalen 56).

Yn ei chynllun Cymru Sero Net a gyhoeddwyd yn ddiweddar, dyma a ddywedodd Llywodraeth Cymru: ‘O 2021 ymlaen ni chaiff safleoedd cynhyrchu ynni newydd sy’n llosgi tanwyddau ffosil heb systemau rheoli carbon eu hadeiladu yng Nghymru. Caiff yr holl safleoedd cynhyrchu ynni presennol sy’n defnyddio nwy heb systemau rheoli carbon eu tynnu allan o’r system erbyn 2035.’ (Tudalen 59)

Er bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ran lleihau allyriadau’r sector hwn, ynghyd â chynnydd o ran ynni adnewyddadwy, ymdrin â thlodi tanwydd mewn rhai ardaloedd, gwahardd ffracio i bob pwrpas, y Fenter Byw’n Glyfar, a gwrthod agor pyllau glo newydd yng Nghymru, mae yna lawer mwy i’w wneud o hyd.

Targed Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw gweld 70% o’n trydan yn deillio o ynni adnewyddadwy erbyn 2030

Fodd bynnag, un agwedd bwysig a gaiff ei bwrw i’r naill ochr yn aml yw cyfyngu ar y galw, yn syml trwy leihau faint o ynni rydym ei angen.

Os gallwn leihau’r galw yn gyffredinol, yna byddwn hefyd yn lleihau faint o ynni y bydd yn rhaid inni ei gynhyrchu yn y lle cyntaf, gan leihau allyriadau hefyd.

Sut y cynhyrchwn wres, sut y cynlluniwn rwydweithiau ynni, sut y storiwn yr ynni a gynhyrchir gennym, sut y byddwn yn ymdrin â sectorau sy’n anodd eu datgarboneiddio – bydd y materion hyn, ynghyd â nifer o bethau eraill, yn hollbwysig o ran gweld a allwn gyflawni ein huchelgeisiau i gyrraedd statws ‘sero net’ cyn gynted â phosibl.

Mae gan dechnolegau eraill, fel ynni niwclear ac ynni hydrogen, eu cefnogwyr; ond gan fod ynni adnewyddadwy yn rhatach, yn gyflymach i’w adeiladu, ac yn lanach nag ynni niwclear, mae Cyfeillion y Ddaear yn gwrthwynebu’r syniad o ddatblygu gorsafoedd ynni niwclear newydd.

Mae yna le i hydrogen mewn rhai sectorau, fel diwydiannau trwm, ond rhaid bod yn ofalus, ac nid yw o angenrheidrwydd yn cynrychioli’r ‘ateb perffaith’ hwnnw y sonia rhai amdano.

Gweler yr wybodaeth gan Gyfeillion y Ddaear i gael rhagor o fanylion.

Mae hi’n hanfodol inni barhau i leihau faint o ynni a ddefnyddiwn, a defnyddio mwy fyth o ynni adnewyddadwy.

Drwy’r byd, mae Project Drawdown yn amcangyfrif y canlynol:

Gellid lleihau neu storio 200.6–440.2 gigatunnell o allyriadau cyfwerth â charbon (CO2e) yn ystod y cyfnod rhwng 2020 a 2025 trwy wella effeithlonrwydd (lleihau’r galw), trwy droi at ddulliau cynhyrchu eraill (ynni adnewyddadwy yn lle tanwyddau ffosil), trwy wella’r system drydan o ran gridiau hyblyg, a thrwy storio ynni’n effeithiol.

 

Pethau y gallwch chi eu gwneud

Ynni

Amdani!

Share this page