Ymunwch â chlwb ceir
Published: 20 Apr 2022
Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor ddrud yw ceir i’w cynnal: talu am wasanaeth i’r car, ei gynnal, yr yswiriant, y dreth, y petrol ac atgyweiriadau parhaus.
Mae rhannu ceir a chyfuno ceir ar gynnydd.
Mae ffigyrau yn awgrymu bod teuluoedd yn gallu arbed arian wrth rannu ceir ag eraill ac mae gyrwyr sy’n gyrru llai na 6,000 i 8,000 o filltiroedd y flwyddyn, yn gallu arbed hyd at £3,500 y flwyddyn wrth fod yn rhan o glwb ceir yn ôl Carplus.
Mae’r cynlluniau hyn yn gallu bod o gymorth wrth leihau ôl troed carbon gyrwyr ac mae cerbyd clwb ceir yn arbed 1.392 tunnell o garbon bob blwyddyn ar gyfartaledd.
Mae gan Community Car Share lawer o wybodaeth am gynlluniau amrywiol. Oes gennych chi un yn eich ardal chi eisoes? Fyddech chi’n ystyried ymuno â chlwb tebyg?