TerraCycle
Published: 26 Apr 2022
Mae TerraCycle yn arbenigo mewn ailgylchu eitemau sy’n draddodiadol anodd eu hailgylchu.
Ers ei lansio yn yr UDA yn 2001, mae wedi tyfu i weithredu’n fyd-eang.
Mae TerraCycle yn casglu ac yn ailgylchu amrywiaeth eang o gynnyrch sy’n anodd eu hailgylchu fel beiros, capsiwlau coffi, bonau sigarennau a phecynnau creision.
Maent yn cynnig cyfle i bobl a grwpiau gofrestru i weithredu fel hybiau casglu ar gyfer gwahanol ddeunyddiau y maen nhw wedyn yn rhoi arian i’ch elusen neu elusennau dewisol amdanynt.
Mae Sara Lewis o Gaerffili yn un o nifer o bobl ledled Cymru sydd eisoes yn cymryd rhan yn y fenter ac yn ennill arian ar gyfer ei hysgol leol.
A oes mentrau fel hyn yn eich ardal chi?