Sefyll i fyny dros Gymru yn COP 26 - blog
Published: 5 Jul 2021
YCHWANEGWCH EICH LLAIS HEDDIW
Fe ymunais â Climate Cymru fel Llysgennad yn ddiweddar oherwydd dwi eisiau diogelu amgylchedd Cymru ar gyfer cenedlaethau i ddod. Mae’r ymgyrch gynhwysol hon yn rhoi lleisiau Cymreig yng nghalon popeth mae’n ceisio ei gyflawni.
Fe wyddom fod Cymru yn le gwych i fyw a gweithio, ond mae’r argyfwng natur a hinsawdd barhaus yn cael effaith ar sut fyddwn ni'n byw ein bywydau yn y dyfodol.
Ein nod yw mynd â 50,000 o leisiau i'r Senedd cyn Trafodaethau Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow, i gynrychioli beth sydd gan Gymru i'w ddweud mewn gwirionedd. O fywyd gwyllt, môr i goetiroedd, beth am i ni ddiogelu'r Gymru rydym yn ei charu.
Dyma sut allwch chi gymryd rhan…
Beth yw Climate Cymru?
Mae’r Deyrnas Unedig yn cynnal 26ain Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) yn Glasgow ar 31 Hydref – 12 Tachwedd 2021.
Mae Climate Cymru yn ymgyrch sy'n ceisio casglu lleisiau o bob cwr o Gymru i fynd â nhw i’r Senedd cyn y digwyddiad pwysig hwn.
Ein nod yw mynd â barnau pobl i arweinwyr Cymru, trwy gasglu syniadau pawb ynghyd ynghylch pam fod diogelu Cymru yn yr argyfwng natur a hinsawdd yn bwysig iddynt.
Unwaith y byddwn wedi cyrraedd 50,000 o leisiau, gallwn ddefnyddio pwysau democrataidd ar Lywodraeth Cymru a'r Deyrnas Unedig i wneud ymrwymiadau ystyrlon, seiliedig ar dystiolaeth a theg yn Nhrafodaethau Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.
Rydym eisiau gwneud i newid gwirioneddol ddigwydd, ac mae hynny'n cychwyn trwy ymgysylltu â chymunedau Cymreig amrywiol, a mynd â’r rhain i’r Senedd.
Pam ddylech chi gymryd rhan?
Pobl Cymru sy'n berchen ar y neges hon – nid rhywbeth gan un person yn unig yw hyn!
Bydd gan y trafodaethau a gynhelir yng Nghynhadledd Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ffaith enfawr ar ddyfodol Cymru.
Mae’n bwysig cyrraedd cymaint o bobl â phosibl cyn cynnal COP26, er mwyn i ni allu dangos i'n haelodau etholedig beth sy'n bwysig i ni.
Mae yna gymaint o gymunedau gwych yng Nghymru. Yr ymgyrch gynhwysol hon yw’r ffordd berffaith i ychwanegu eich llais ac i ddweud eich barn am ein dyfodol.
.
Pa wahaniaeth fydd hyn wir yn wneud?
Mae’r ymgyrch eisoes wedi ennill tir a dal sylw arweinwyr dylanwadol yng Nghymru. Mae gennym gyfle posibl i siapio deddfwriaeth a ffocysu cyllid y llywodraeth ar brosiectau amgylcheddol cynaliadwy.
Beth ydym yn ei wneud?
Rydyn ni hefyd:
- Yn dylanwadu ar arweinwyr: yn cymryd rhan weithredol mewn sgyrsiau ar hinsawdd a natur ac yn arddangos cefnogaeth y cyhoedd dros weithredu.
- Yn cyfrannu at godi proffil COP26 ac adeiladu momentwm ar gyfer gweithredu byd-eang ar hinsawdd: Yn rhan o fudiad llawer mwy,yn arwain at, yn ystod ac wedi COP26, yn ddigidol ac yn gorfforol.
- Yn ysbrydoli ac addysgu pobl Cymru: Yn dod â’r materion hyn yn ôl i frig yr agenda i fod yn flaenoriaeth i’r boblogaeth ehangach.
Ein partneriaid
Un o’n prif lwyddiannau yw gallu meithrin cysylltiadau gyda dros 130 o sefydliadau traws sector sy'n ymwybodol o'r hinsawdd, a derbyn ymgysylltu amrywiol gan bobl o bob cefndir a phleidiau gwleidyddol.
Mae nifer o sefydliadau Cymreig yn cefnogi'r ymgyrch fel WWF Cymru, Oxfam Cymru, RSPB Cymru a Chyfeillion y Ddaear Cymru.
Os ydych chi’n fusnes a hoffai gymryd rhan, yna gallwch gofrestru yma.
Gallwch ddarllen mwy am ein newyddion diweddaraf yma.
Rydyn ni hefyd yn gweithio gydag ysgolion, gallwch gael rhagor o wybodaeth yma.
Sut alla i gymryd rhan?
Mae ychwanegu eich llais yn hawdd ac yn cymryd llai na 30 eiliad i'w wneud!
Ewch i'n gwefan ac ychwanegu eich llais yma