Sbwriel a’r gyfraith – datrys problem sbwriel Cymru

Published: 7 Apr 2021

Yn ôl tystiolaeth, mae taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon wedi cynyddu dros y pandemig. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar beth ellir ei wneud yma yng Nghymru i fynd i’r afael â’n problem wastraff gynyddol. Mae Hannah a Bleddyn yn ystyried gwahanol ddatrysiadau.

Gan Hannah Morris, gwirfoddolwr, a Bleddyn Lake, Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygu, Cyfeillion y Ddaear Cymru

Mae sbwriel bellach yn un o’r arwyddion hynny o fywyd modern, yn tydi? Petaem ni’n teithio yn ôl i amser cyn oes plastig, sut fyddai ein ffyrdd a’n traethau yn edrych? Petaem ni’n mynd yn yr un peiriant amser ac yn teithio ymlaen mewn amser, beth welwn ni?

A fydd sbwriel yn dal ym mhob man neu a fydd o’n perthyn i rywbeth o’r oes o’r blaen?

A sut allwn ni ei rwystro rhag digwydd?

 

Y cyfan sydd yn rhaid i ni ei wneud, yn syml, yw peidio â thaflu pethau ar y llawr.

Daw’r rhan fwyaf o sbwriel wrth i bobl daflu pa beth bynnag y bo allan o ffenestr y car neu tra byddant yn mynd am dro a bydd rhywfaint yn cael ei chwythu gan y gwynt o finiau sy’n orlawn ac ati.

O ystyried yr holl heriau byd-eang sy’n ein hwynebu gyda newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth a dinistrio cynefinoedd, y cyfan sydd wir raid i ni ei wneud yw peidio â thaflu pethau ar y llawr. Ddim yn ofnadwy o anodd, nac ydi?

Mae’n debyg bod pawb ohonom ychydig yn ‘ddall i sbwriel’ bellach, i’r graddau nad ydym yn sylwi ar lawer ohono.

 

 

Caiff bron i £2M ei wario ar lanhau tipio anghyfreithlon pob blwyddyn.

Yn ei dogfen ymgynghori, mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif cost sbwriel a thipio anghyfreithlon:

“Er bod mantoli gwir gost ariannol y troseddau amgylcheddol hyn yn gallu bod yn anodd, mae data a gasglwyd yn 2018/19 gan Awdurdodau Lleol yn dangos y gwariwyd bron £2 filiwn ar glirio achosion o dipio anghyfreithlon a thros £53 miliwn ar lanhau strydoedd. Mae clirio sbwriel a nwyddau sydd wedi’u tipio’n anghyfreithlon oddi ar ein rhwydweithiau ffordd hefyd yn ddrud gan fod angen rheoli llif y traffig i sicrhau diogelwch y rheini sy’n gwneud y gwaith clirio. Amcangyfrifir ei bod yn costio £2 filiwn y flwyddyn i glirio’r math hwn o sbwriel.” 

Roedd yr ymgynghoriaeth annibynnol, Eunomia, yn rhoi’r ffigwr gwirioneddol yn llawer uwch ac yn amcangyfrif bod 

“sbwriel cymdogaeth yn costio oddeutu £440 miliwn y flwyddyn. Mae hyn yn adlewyrchu maint y 'cynnydd lles' a enillir mewn sefyllfa ddi-wastraff.'

 

Gyda llwyddiant y cynllun codi tâl am fagiau plastig untro, mae hyn wedi cael effaith ysgubol ar leihau faint o’r bagiau hyn sy’n cael eu defnyddio ac wedi arwain at leihau sbwriel bagiau plastig hefyd. Mae hyn i’w weld ac yn hynod amlwg. ‘Does fawr o dro er pan roedd hi’n beth cyffredin i ni weld bagiau plastig yn hongian oddi ar goed a llwyni ac yn sownd mewn coedwrych. Golygfa sy’n llawer prinnach heddiw, diolch i’r drefn. Mae’n debyg bod hyn hefyd yn dangos y ffordd o ran sut i ddelio gyda sbwriel arall.

Gwyddom o lawer o astudiaethau mai papurau a chynwysyddion bwyd a diod yw’r prif fathau o sbwriel, fel poteli plastig, cwpanau tecawê untro, caniau, pecynnau brechdanau, pecynnu bwyd cyflym, pacedi creision neu bapurau siocled.

Ar hyd ein harfordir, gwelwn hefyd eitemau sy’n gysylltiedig â’r diwydiant pysgota fel leiniau, llinyn a rhaffau pysgota. A daw’r stympiau bondigrybwyll i’r golwg yn ddirifedi ym mhob man!

Beth am i ni edrych ar bob un o’r eitemau sbwriel hyn a gweld sut mae angen ymyrryd er mwyn delio gyda’r eitem neilltuol honno.

 

1. System Dychwelyd Ernes

 

Byddai Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd, er enghraifft, yn lleihau’r tebygolrwydd bod yr eitemau untro hyn yn cael eu taflu fel sbwriel oherwydd bydd pris arnynt ac felly byddant o werth.

 

2. Treth cwpanau coffi

 

Byddai codi tâl am gwpanau tecawê untro yn annog pobl i ddefnyddio cynwysyddion diodydd y gellir eu hailddefnyddio, a fyddai’n golygu lleihad anferthol mewn sbwriel o’r cynhyrchion gwastraffus hyn.

 

3. Gwahardd plastig untro

A byddai gwahardd eitemau plastig untro penodol (fel y bwriada Llywodraeth Cymru wneud), yn gyfan gwbl, yn golygu na fuasent ar gael wedyn.

 

4. Gwahardd ysmygu

Ar gyfer yr eitemau sbwriel heb gael sylw gan yr ymyraethau hyn, mae’n bwysig i ni edrych beth yw’r datrysiad. Ar gyfer stympiau sigaréts, er enghraifft, byddem yn cefnogi syniad Mark Drakeford (pan roedd o’n ymgeisio am swydd Prif Weinidog) o wahardd ysmygu yng nghanol y dinasoedd a’r trefi.

 

5. Dylai busnesau lanhau tu allan i eiddo

Hoffem hefyd weld busnesau yn cymryd cyfrifoldeb am lanhau sbwriel tu allan i’w heiddo. Er enghraifft, mae gan archfarchnadoedd feysydd parcio mawr ble mae sbwriel yn aml wedi’i daenu ar hyd y llawr. Byddai hyn yn lleihau sbwriel yn gyffredinol, ac yn rhoi’r argraff o ardal sydd yn eithaf glân a thaclus yn hytrach nag un ble mae sbwriel ym mhob man. Yn ei dro, byddai hyn yn lleihau’r tebygolrwydd bod mwy o sbwriel yn cael ei ollwng.

Yn amlwg, mae syniadau a datrysiadau gwreiddiol eraill y mae ardaloedd eraill yn eu treialu ac sydd yn werth edrych arnynt.

 

6. Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr

Felly sut mae tipio anghyfreithlon yn dod iddi? Yn ôl gwaith ymchwil, mae llawer o wastraff sydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon, ar y cyfan, yn cynnwys eitemau cartref mawr sef pethau y byddech chi fel arfer yn mynd efo chi pan fyddech chi’n symud tŷ.

Os nad yw cynghorau yn gallu fforddio darparu gwasanaethau i gasglu’r mathau hyn o eitemau am ddim, yna beth yw’r dewis arall i bobl? Mynd â phethau i’ch tomen leol, talu’r cyngor i ddod i’w casglu, talu cwmni preifat trwyddedig i’w gwaredu, talu cwmni didrwydded i’w gwaredu neu dipio pethau yn anghyfreithlon eich hunan.

Gan fod cynghorau yn dynn am arian, beth yw’r ateb? Yn y tymor hwy, yr ateb i bawb ohonom fyddai symud at system logi ar gyfer nwyddau gwyn, soffas ac ati yn hytrach na system brynu. Byddai’r cwmnïau perthnasol yn cymryd y nwyddau yn ôl pan nad oes eu hangen mwyach, gan arbed costau casglu.

Ffordd arall y gallwn helpu i ddatrys ein problem gyda thipio’n anghyfreithlon a thaflu sbwriel yw drwy wneud i fusnesau gymryd cyfrifoldeb am yr holl gostau sydd ynghlwm â’u cynnyrch, gan gynnwys gwastraff.

Strategaeth yw Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ble mae cynhyrchwyr yn cymryd cyfrifoldeb am y ‘pethau’ a gynhyrchant unwaith y maent wedi cael eu defnyddio. Byddai’r strategaeth hon yn symud y cyfrifoldeb o’r cynghorau yn ôl i’r union gwmnïau hynny sydd yn elwa o werthu eu pethau i ni yn y lle cyntaf.

 

7. Hawl i drwsio

Bydd y ddeddfwriaeth sydd newydd ei chyhoeddi ar lefel y DU, sef ‘Hawl i Atgyweirio’ hefyd yn helpu i gadw cynnyrch mewn defnydd am yn hirach gan fydd rhwymedigaeth gyfreithiol bellach ar weithgynhyrchwyr i roi partiau sbâr i gwsmeriaid ar gyfer y cynnyrch a brynant. Fel hyn, byddant yn haws i’w hatgyweirio yn hytrach na’u bod yn rhy ddrud neu’n rhy anodd i’w hatgyweirio gartref.

 

Y dyfodol agos

Felly, nes daw strategaeth Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr i rym, beth fyddai’n fuddiol i ni wneud? Byddai casglu gwastraff swmpus am ddim unwaith eto yn un syniad. Byddai hyn yn cael gwared ar y cymhelliad i dipio’n anghyfreithlon neu gyflogi gweithredwyr anrheoleiddiedig i fynd â nwyddau cartref a chael gwared arnynt.

Sut allem ni wneud hyn? Wel, ni allwn ddisgwyl i gynghorau ddod o hyd i’r arian ychwanegol ar chwarae bach felly sut allwn ni ariannu hyn? Un opsiwn fyddai defnyddio rhan o rywbeth fel y dreth dirlenwi neu rywfaint o’r arian a godir o’r ‘Dreth cwpanau coffi ac yna rhoi hyn i’r cynghorau i’w glustnodi ar gyfer y system gasglu hon.

Y gobaith yw y bydd y datrysiadau y byddwn ni’n eu gweithredu dros y blynyddoedd nesaf yn arwain at ddyfodol ble mae tipyn llai o sbwriel a gwastraff wedi’i dipio’n anghyfreithlon!

Gallwch weld ein hymateb i’r ymgynghoriad yma.

Share this page